Amdanom ni
Mae Gogledd Cymru yn un o'r llefydd mwyaf diogel i fyw yn y
Deyrnas Unedig. Gwasaneithir poblogaeth o 676,000 gan yr Heddlu,
mewn ardal o 6,300 cilomedr sgwâr. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn
sefydliad sy'n perfformio ar safon uchel yn gyson, ac yn ceisio
gwella'r gwasanaeth a ddarperir i'n cymunedau.
Gyda tua 1450 o Swyddogion Heddlu a 250 o Swyddogion Cefnogi
Cymuned yr Heddlu ynghyd â dros 800 o staff, rydym yn gweithio'n
galed i gyflawni y blaenoriaethau canlynol.
- Lleihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n effeithio
ar ein cymunedau.
- Darparu gwasanaeth o ansawdd sy’n rhoi hyder i’n cymunedau
- Amddiffyn pobl a lleihau niwed
- Sicrhau gweithlu trefnus, medrus a arweinir yn dda