Mynediad i Wybodaeth
Cael mynediad i wybodaeth sydd gan Heddlu Gogledd Cymru
amdanoch
Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn rhoi’r hawl i unigolyn
gael copi o unrhyw ddata personol sy'n cael ei gadw amdanynt.
Mae’r Ddeddf Gwarchod Data yn rhoi hawl i unigolyn gael copi o
unrhyw ddata personol sy’n cael ei gadw amdano/i gan Heddlu Gogledd
Cymru, oni bai bod eithriad yn berthnasol i’r cais hwnnw.
Mae Adran 7 o’r Ddeddf yn nodi bod gan ‘wrthrych y data’ (yr
unigolyn mae’r data yn cyfeirio ato) hawl, ar gais ysgrifenedig, i
gael eu hysbysu os oes data personol yn cael ei gadw neu ei brosesu
amdanynt.
Mae gwybodaeth sy’n cael ei rhyddhau o dan y ddeddfwriaeth hon
yn galluogi unigolion i fodloni eu hunain, mewn sefyllfaoedd ble
mae gwybodaeth yn cael ei phrosesu amdanynt, ei bod yn gywir, nad
yw’n eithafol ac nad yw’n cael ei chadw yn hirach na sy’n
angenrheidiol.
Mae’n gyfyngedig i wybodaeth sy’n ymwneud â’r ymgeisydd yn unig
a ni fydd gwybodaeth am unigolion eraill yn cael ei rhoi.
Mae’n annhebygol felly y bydd y dull hwn yn ffordd briodol o
gael gwybodaeth am eraill, ni fydd chwaith yn debygol o fod yn
addas ar gyfer unigolion sy’n ystyried, neu sy’n cymryd, camau
cyfreithiol yn erbyn unigolyn neu sefydliad. Mewn amgylchiadau o’r
fath, bydd y dulliau cyfreithiol arferol o ddod o hyd i wybodaeth
yn fwy priodol.
Bydd unrhyw wybodaeth nad yw’n ymwneud â’r ymgeisydd yn cael ei
hepgor pan fydd un neu fwy o’r amgylchiadau isod yn berthnasol:
- Pan gallai rhyddhau’r wybodaeth arwain at adnabod unigolyn
arall, y mae gan Heddlu Gogledd Cymru ddyletswydd i gadw
cyfrinachedd.
- Yn aml, bydd hyn ble mae'r wybodaeth sydd wedi'i chofnodi yn
cynnwys mwy nag un unigolyn, e.e. mae adroddiad am drosedd yn
cynnwys gwybodaeth am y dioddefwr a'r unigolyn sydd o dan
amheuaeth/y troseddwr. Fel arfer, ni fydd y troseddwr yn cael
manylion personol y dioddefwr nac i’r gwrthwyneb.
- Gwybodaeth yn cael ei brosesu ar gyfer atal neu ddatrys trosedd
neu ar gyfer arestio neu euogfarnu troseddwyr. Ni fyddwn yn
rhyddhau gwybodaeth am unigolion o dan yr amgylchiadau hyn os y
bydd gwneud hynny yn tanseilio'r frwydr yn erbyn troseddau.
- Cofnodion papur/manwl yn cael eu prosesu, gallai’r rhain
gynnwys ffeiliau ymchwiliadau.
- Tra gellir chwilio ffeiliau electronig gyda theclynnau chwilio
awtomatig fel arfer, nid yw hyn yn wir ar gyfer cofnodion
ysgrifenedig a bydd angen i Heddlu Gogledd Cymru gael cyngor am le
mae gwybodaeth o’r fath yn cael ei chadw cyn gallu derbyn cais o’r
fath. Hyd yn oed mewn sefyllfa ble gellir dod o hyd i gofnodion
papur, os yw’r gost o adolygu a rhyddhau'r wybodaeth yn debygol o
fod yn uwch na £450, mae tu allan i'r hawl i fynediad sydd wedi'i
ganiatáu gan y Llywodraeth.
Os hoffech wybod pa wybodaeth (os o gwbl) sydd gan Heddlu Gogledd
Cymru amdanoch chi neu os hoffech gadarnhad bod gennych, neu nad
oes gennych, hanes o euogfarnau/erlyniadau, gallwch
Lawrlwytho’r
Ffurflen Cais am Fynediad i Wybodaeth neu cysylltwch â:
Safonau Gwybodaeth a Chydymffurfiad
Heddlu
Gogledd Cymru
Glan-y-Don
Ffordd Abergele
Bae Colwyn
LL29 8AW
Rhif Ffôn: (01492) 805125
Mae’n costio £10 ac mae'n rhaid i chi ddarparu dau fath o brawf
adnabod sydd, rhyngddynt, yn cadarnhau eich enw llawn, eich
cyfeiriad, eich dyddiad geni a’ch llofnod.
Noder y gall y broses i’ch darparu chi â gwybodaeth gymryd hyd at
40 diwrnod ar ôl i ni gael eich ffurflen gais wedi'i llenwi'n
iawn.