Gwarchod Ffermyddlogo Gwarchod Ffermydd

Mae Gogledd Cymru yn ardal wledig ac o bryd i’w gilydd bydd pobl yng nghefn gwlad yn gallu dioddef trosedd. Bydd yr Heddlu, ffermwyr lleol a'r gymuned wledig yn cydweithio'n agos yn y cynlluniau Gwarchod Ffermydd er mwyn atal troseddau gwledig ac amddiffyn ffermydd.

 

Yr unig wahaniaeth rhwng y cynllun Gwarchod Ffermydd a’r Cynllun Gwarchod y Gymdogaeth yw bod y tai a’r ffermydd yn bellach oddi wrth ei gilydd.

 

Yn aml iawn, bydd gan ffermwyr lawer iawn o offer symudol ac sy’n gymharol hawdd i’w ddwyn. Drwy ddarparu cyngor atal trosedd a diweddariadau neges testun rheolaidd, bydd yr holl aelodau o’r cynllun Gwarchod Ffermydd yn cael eu diweddaru am y mathau o droseddau sy’n digwydd a gweithgareddau amheus a fydd yn helpu i leihau’r risg o aelodau’r gymuned ffermio yn dioddef trosedd yng nghefn gwlad.

 

Bydd pawb sy'n cofrestru ar gyfer y cynllun Gwarchod Ffermydd yn cael:

  • Cyngor rheolaidd ac ymarferol er mwyn sicrhau bod eiddo yn cael ei gadw mor ddiogel â phosibl.
  • Arwydd Gwarchod Ffermydd a fydd yn cael ei roi ar giât allanol y fferm/eiddo cefn gwlad er mwyn dangos eu bod yn rhan o’r cynllun
  • Neges testun SMS a fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ffermwyr am y math o droseddau sy’n digwydd ac unrhyw gerbydau/weithgaredd amheus yn yr ardal.
  • Pecyn Gwarchod Ffermydd sy’n cynnwys offer marcio eiddo a fydd yn ei gwneud hi’n anoddach i’r lleidr gael gwared ar eiddo wedi'i ddwyn petai lladrad.

 

Os hoffech fwy o fanylion am sut i ymuno â’r cynllun yn eich ardal cysylltwch â:

Yn Môn

Gogledd Ddwyrain 

PCSO 2924 Katy Hughes
katy.hughes@nthwales.pnn.police.uk
101

 

Gogledd Orllewin
PCSO 2943 Kelly Tatlock
kelly.tatlock@nthwales.pnn.police.uk

101

 

De Orllewin
PCSO 2995 Neil Shakespeare
neil.shakespeare@nthwales.pnn.police.uk

101

 

De Ddwyrain
PCSO 2910 Iona Beckmann  
iona.beckmann@nthwales.pnn.police.uk

101

Yng Nghonwy a Sir Ddinbych
PCSO Michelle Williams
michelle.williams2@nthwales.pnn.police.uk

07979 256 866

PCSO Ben Madeley
benjamin.madeley@nthwales.pnn.police.uk
07854 332450

Yng Ngwynedd
PCSO Ian Rooksby
Ian.Rooksby@nthwales.pnn.police.uk
07768 555871

 

Yn Sir y Fflint a Wrecsam
Jackie Lee
jackie.lee@fnwa.org.uk  neu owlalert@org.uk
01352 708118

 

.