Siopa Diogel Ar-lein
Mae siopa ar-lein bellach yn rhan o fywyd pob dydd ond
mae nifer o bobl yn dal i boeni y bydd manylion eu cardiau credyd
yn mynd i’r dwylo anghywir ac na fydd nwyddau sy’n cael eu prynu ar
y rhyngrwyd yr hyn maent yn ymddangos.
Mae siopa ar-lein yma i aros ac mae diogelwch ar-lein yn parhau
i ddatblygu. Cofiwch ddilyn y cyngor isod er mwyn eich helpu chi i
sicrhau bod eich profiad o siopa ar-lein yn un diogel.
Edrychwch ar ddilysrwydd y cwmni
- Ymchwiliwch i’r cwmni ar-lein ac edrychwch beth mae cwsmeriaid
eraill wedi’i ddweud amdanynt.
- Edrychwch am eu manylion cyswllt a ffoniwch nhw. Bydd cwmnïau
dilys yn arddangos eu manylion cyswllt bob amser ac yn croesawu
cyswllt â chwsmeriaid.
- Dilyn argymhellion cyhoeddus.
- Dim ond oherwydd bod cyfeiriad y wefan yn cynnwys ‘UK’,
peidiwch â chymryd yn ganiataol bod y cwmni wedi’i leoli yn y DU.
Mae camgymeriadau sillafu a gramadeg gwael yn gallu rhoi syniad i
chi nad yw’r cwmni yn un dilys neu efallai ei fod wedi’i ddatblygu
dramor. Er nad yw siopa dramor yn rhywbeth na ddylid ei wneud fe
allai fod yn anodd gorfodi manylion eich contract os bydd pethau’n
mynd o chwith.
- Peidiwch â chael eich twyllo gan wefannau sy’n ymddangos yn
broffesiynol, gwnewch yn siŵr bod eu gwasanaethau cwsmeriaid yr un
mor broffesiynol.
- Yn fwy na dim, DILYNWCH EICH GREDDF, os nad ydych yn siŵr,
ystyriwch siopa yn rhywle arall.
Gwiriwch y broses talu’n ddiogel
Cyn clicio ar y botwm ‘talu’ i brynu eich nwyddau, gofynnwch i
chi eich hun:
- Yw’r wefan hon yn ddiogel? Edrychwch am ‘https://’ yn eich
porwr a symbol y clo ar y gwaelod. Fe ddylai’r ddau o’r rhain fod
yn bresennol ar y dudalen yr ydych yn ei defnyddio pan fyddwch yn
rhoi gwybodaeth bersonol neu fanylion talu (cerdyn credyd).
- Bydd talu â cherdyn credyd yn rhoi lefel ychwanegol o
ddiogelwch i chi.
Pethau eraill y dylech eu gwybod cyn prynu
- Beth yw’r costau postio a phacio?
- Edrychwch ar yr amseroedd danfon – ceisiwch fod yno pan fydd
eich nwyddau’n cyrraedd.
- A fydd yn rhaid i chi dalu cyn cael yr eitem neu pan fydd yn
cyrraedd?
- Allwch chi dracio’r eitem yn ystod y broses ddanfon?
- Beth yw eu polisi canslo a dychwelyd a phwy fydd yn talu’r
costau hyn?
- Oes yna gyfnod i chi allu newid eich meddwl?
Ocsiynau ar-lein
Os ydych chi’n defnyddio safle ocsiwn ar-lein fel e-bay sy’n gallu
bod yn lle cuddio i bobl sy’n twyllo, gall dilyn ychydig o gyngor
syml wneud pethau’n ddiogelach:
- Cyn i chi ddechrau, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y broses,
rheolau’r safle a chyngor diogelwch y cwmni ocsiwn ei hun.
- Dewch i adnabod y gwerthwr ar-lein. Gofynnwch gwestiynau.
Edrychwch ar yr adborth maen nhw wedi’i gael.
- Dysgwch sut i bigo gwerthwyr da. Bydd gan eu heitemau
ddisgrifiadau clir a byddant yn ateb eich cwestiynau.
- Peidiwch â rhoi eich cyfrinair nac unrhyw fanylion
personol.
- Defnyddiwch ffordd ddiogel o dalu bob amser megis PayPal neu
gerdyn credyd / debyd.
Twyll
Byddwch yn ymwybodol o negeseuon e-bost digymell neu ddolenni o
fewn negeseuon e-bost os nad ydych yn gwybod pwy sydd wedi eu
hanfon. Bydd nifer o’r negeseuon hyn yn gofyn i chi gysylltu â neu
anfon eich manylion ar gyfer eu dilysu. Os yw unrhyw gynnig yn
edrych yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod o.
Riportiwch o
- Action Fraud yw canolfan riportio twyll cenedlaethol y DU.
- Os ydych chi wedi dioddef twyll neu os oes rhywun wedi eich
twyllo, mae rhywbeth y gallwch chi ei wneud am hyn. Siaradwch ag
Action Fraud.
- Os yw twyll siopa ar-lein wedi costio arian i chi, ffoniwch
nhw.
- Os ydych wedi dioddef o ganlyniad i ddwyn hunaniaeth,
cysylltwch â nhw.
- Mae’n bosib trechu’r twyll os byddwn yn siarad â’n gilydd.
- Gall adnabod twyll yn fuan fod yn hanfodol felly os ydych yn
meddwl eich bod wedi dioddef twyll neu os ydych yn dymuno cael
gwybodaeth am sut i amddiffyn eich hun, dyma’r man cychwyn.
- Action Fraud yw’r man canolog i gysylltu ag ef ac i gael
cymorth os ydych wedi dioddef o ganlyniad i dwyll.
- Cliciwch yma i
ddefnyddio’r adnodd ar-lein neu ffoniwch 0300 123
2040