Cyngor i Yrwyr Cerbydau Araf
Mae holl ddefnyddwyr y ffyrdd yn gyfrifol am
eu diogelwch nhw eu hunan a diogelwch eraill.
Mae’r risg i yrwyr cerbydau araf a’u teithwyr ynghyd â defnyddwyr
eraill y ffordd a’u teithiwr nhw yn cynyddu pan na fydd yn bosib
gweld yn glir neu os nad yw bwriadau gyrrwr y cerbyd yn
amlwg.
Mae’r drosedd gyrru’n beryglus yn cyfeirio at y ffordd y mae cerbyd
yn cael ei yrru yn ogystal â chyflwr y cerbyd hwnnw.
Yn gyffredinol, mae cerbydau amaethyddol a threlars wedi’u heithrio
rhag y rheoliadau goleuadau pan fyddant yn cael eu defnyddio yn
ystod y dydd yn unig. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r math hwn o
gerbyd ag unrhyw drelar ddefnyddio’r goleuadau priodol os bydd ar y
ffordd cyd codiad yr haul neu ar ôl i’r haul fachlud. Mae
methu â chydymffurfio â’r gofyniad hwn yn drosedd a gall arwain at
ddwy flynedd yn y carchar a/neu ddirwy, gallech gael eich gwahardd
rhag gyrru a chael eich gorfodi i ail-sefyll eich prawf.
Mae'n rhaid i rai cerbydau arddangos goleuadau melyn sy’n fflachio
pan fyddant ar ffyrdd deuol anghyfyngedig, ond fe argymhellir bod
POB cerbyd araf yn defnyddio goleuadau melyn sy’n fflachio pan
fyddant ar ffyrdd lle mae’r traffig yn symud ar gyflymder.
Crynodeb o’r cyngor i yrwyr cerbydau
araf
- Mae’n rhaid i gerbydau a threlars
ddefnyddio'r golau priodol rhwng machlud haul a chodiad yr
haul.
- Dylech gadw’r adlewyrchyddion a’r goleuadau yn lân.
- Mae’n drosedd i fod â golau gwyn ar gefn cerbyd pan fyddwch yn
teithio ymlaen.
- Mae gan y perchennog a’r gyrrwr (fydd efallai yn weithiwr)
gyfrifoldeb am gyflwr y cerbyd ac unrhyw drelar sy’n cael ei yrru
ar y ffordd.
- Gall gyrru cerbyd ar y ffordd sydd ddim yn cydymffurfio â’r
rheolau arwain at i unigolyn gael ei gyhuddo o yrru’n
beryglus.
- Y gosb am yrru’n beryglus yw hyd at ddwy flynedd o
garchar.