Sut mae Heddlu Gogledd Cymru’n defnyddio cyfryngau
cymdeithasol?
Mae Heddlu Gogledd Cymru’n cefnogi’r defnydd o gyfryngau
cymdeithasol fel ffordd arall o gyfathrebu â’r cyhoedd yr ydym yn
eu gwasanaethu.
Mae ein rhwydweithiau – sy’n cynnwys Twitter,
Facebook ac You Tube yn darparu
pobl â ffordd wahanol o gael mynediad i’r newyddion, apeliadau a
gwybodaeth ddiweddaraf yn gyflym.
Drwy ein safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, gall unrhyw un yn
y byd gael diweddariadau rheolaidd am yr hyn sy’n digwydd yn ardal
Heddlu Gogledd Cymru.
Mae safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn ffordd rad o
gyfathrebu y gallwn ei defnyddio i gyfathrebu yn gyflym ac yn
eang.
Twitter
Gan ddefnyddio llai na 140 o
lythrennau yn debyg i neges testun, rydym yn gallu 'trydaru' ein
newyddion, cyngor a diweddariadau diweddaraf.
Gallwn hefyd ‘ail-drydaru’ neges neu ei hanfon ymlaen i’r bobl
sy’n ein dilyn sy’n golygu y gellir anfon sgyrsiau neu wybodaeth
ymlaen yn gyflym. Mae wedi profi’n declyn hynod effeithiol wrth
ddiweddaru’r cyhoedd am bethau wrth iddynt ddigwydd.
Dilynwch Heddlu Gogledd Cymru ar
Twitter (@NWPolice)
Mae Swyddogion a SCCH yn defnyddio’r dechnoleg fel ffordd arall
o gyfathrebu â thrigolion. Yn aml iawn byddant yn ‘trydaru’ tra
fyddant ar ddyletswydd a gall aelodau o’r cyhoedd gael gwir syniad
am fywyd gwaith swyddog neu aelod o staff drwy ddilyn eu
gweithgareddau dyddiol.
Mae’r staff sy’n ‘trydaru’ ar hyn o bryd yn cynnwys:
Facebook
Mae gan ein cyfrif Facebook dros 2,000 o
ddilynwyr ar hyn o bryd. Mae bellach yn gymuned fyw ar-lein lle
ceir rhyngweithio rheolaidd rhyngom ni a’r cyhoedd yng Ngogledd
Cymru.
Bydd gwybodaeth am ein mentrau a’n
hymgyrchoedd diweddaraf yn cael eu rhoi ar ein safle Facebook, lle
caiff defnyddwyr eu hannog i wneud sylwadau ar yr hyn yr ydym
wedi’i nodi neu i ‘hoffi’ yr hyn yr ydym wedi’i gynnwys.
Mae galerïau lluniau, arolygon ar-lein, dolenni i adnoddau
eraill a chyngor a chymorth atal trosedd i gyd wedi profi’n
boblogaidd.
Dewch o hyd i ni ar
Facebook
YouTube

Mae galerïau lluniau, arolygon ar-lein, dolenni i
adnoddau eraill a chyngor a chymorth atal trosedd i gyd wedi
profi’n boblogaidd.
Rydym yn croesawu sylwadau ar ein fideos, fodd bynnag, nid ydym
yn gallu ymateb i’r holl sylwadau yr ydym yn eu cael drwy ein
fideos You Tube.
Mae fideos, yn y gorffennol, wedi cael eu gwylio hyd at 14,000 o
weithiau ac wedi ymddangos ar raglenni newyddion cenedlaethol gan
gyrraedd cynulleidfaoedd ledled y wlad a thu hwnt.
Gwyliwch ni ar
YouTube
Ni ddylid defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol i
riportio troseddau.
Os oes trosedd yn digwydd a’ch bod mewn perygl, ffoniwch
999.
Os ydych chi’n dymuno cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru
mewn achos difrys, ffoniwch
101.