Datganiad Preifatrwydd
Nid yw gwefan Heddlu Gogledd Cymru yn cadw nac
yn casglu gwybodaeth bersonol. Efallai y bydd rhai rhannau
o’r wefan hon yn gofyn am wybodaeth bersonol gennych, er
enghraifft, i adael adborth neu i riportio digwyddiad neu
gŵyn. Ni fyddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gydag unrhyw
asiantaeth arall a bydd yn aros yn gyfrinachol. Bydd y rheswm
dros ofyn am yr wybodaeth bersonol hon yn glir ar y
dudalen.
Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau allanol ac
adnoddau nad oes gennym unrhyw reolaeth drostynt. Nid yw
Heddlu Gogledd Cymru yn gyfrifol am gynnwys nac argaeledd y
gwefannau hyn. Ni allwn sicrhau y bydd y gwefannau hyn ar
gael bob tro.
Defnyddio ‘Cwcis’
Ffeil testun fechan yw ‘cwci’ sy’n cael ei chopïo i’ch
cyfrifiadur gan borwr eich cyfrifiadur. Mae gwefan Heddlu
Gogledd Cymru yn defnyddio ‘cwcis’ i gofnodi eich dewis iaith pan
fyddwch yn ymweld â’r wefan, ac i gofio’r dewis hwnnw wrth i chi
bori drwyddi. Ni fydd unrhyw ddata personol yn cael ei gasglu
amdanoch ac fe’u defnyddir i’ch galluogi chi bori’r wefan yn eich
dewis iaith yn unig.
Gallwch analluogi cwcis yn eich porwr drwy glicio ar
‘dewisiadau’ ar y bar offer. Am gymorth a chefnogaeth ar sut
i ddileu a rheoli cwcis, gallwch ymweld â http://www.aboutcookies.org/ neu
dudalennau webwise y
BBC.
Google Analytics
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn defnyddio 'Google Analytics' i
ddadansoddi’r defnydd a wneir o'n gwefan. Mae’r offeryn hwn
yn defnyddio ‘cwcis’, ffeiliau testun bychan sy’n cael eu
llawrlwytho’n awtomatig i’ch cyfrifiadur er mwyn casglu gwybodaeth
ddienw. Mae’n olrhain gwybodaeth megis sut mae unigolion yn
cyrraedd ein gwefan, pa dudalennau maent yn edrych arnynt a pha
borwr maent yn ei ddefnyddio.
Os fyddai’n well gennych optio allan o gael eich olrhain gan
Google Analytics pan fyddwch yn ymweld â gwefannau, yna ewch i
http://tools.google.com/dlpage/gaoptout
Gwarchod Data
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cofrestru â’r Comisiynydd
Gwybodaeth yn unol â gofynion (A.19)
Deddf Gwarchod Data 1998. Ein rhif cofrestru yw Z4895270.
Edrychwch ar ein Hysbysiad Prosesu
Teg (dogfen pdf) i gael mwy o wybodaeth am sut rydym yn
defnyddio data personol neu cysylltwch â ni ynghylch unrhyw ymholiadau
eraill sydd gennych am ddefnyddio data.
Hysbysiad o newidiadau
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cadw’r hawl i ddiweddaru neu
ddiwygio’r datganiad preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Bydd
manylion unrhyw newidiadau i’w gweld ar y dudalen hon.