Apêl yn dilyn byrgleriaeth Friog
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn am eich
cymorth i ddod o hyd i ladron a aeth i mewn i dŷ yn Friog ar gyrion
Dolgellau a dwyn peiriant gemau X-Box gwyn. Digwyddodd hyn rhwng
11pm ddydd Llun 9 Ebrill a 6am ddydd Mawrth 10 Ebrill 2012 ac mae
Swyddogion lleol yn awyddus iawn i glywed gan unrhyw un a welodd
unrhyw beth amheus ar y noson neu unrhyw un sydd ag unrhyw
wybodaeth a allai gynorthwyo’r ymchwiliad.
Os allwch chi helpu, cysylltwch â DC Mike Owen
neu PC Sioned Jones yng Ngorsaf Heddlu Dolgellau ar 101 neu gallwch
hefyd ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.