Yr Heddlu’n ymchwilio i fyrgleriaeth o gartref
preswyl

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i
fyrgleriaeth o Gartref Preswyl Dolwar yn Llanbedrog ger Pwllheli ac
yn gofyn am eich cymorth chi i ddod o hyd i’r bobl hynny sy’n
gyfrifol. Cafodd y Cartref ei dorri i mewn iddo ryw dro rhwng
2.00am a 3.00am ddydd Iau 14 Mehefin 2012 pan aeth lladron i mewn
i’r swyddfa a dwyn sêff oedd yn cynnwys gemwaith a dogfennau banc
rhai o’r trigolion.
“Cafodd y sêff ei dwyn o’r eiddo felly mae’n
debygol bod y lladron wedi defnyddio cerbyd” meddai PC Andy Vowell
o Orsaf Heddlu Abersoch. Aeth ymlaen i ddweud, “O’r ymholiadau
cychwynnol, credaf fod y lladron wedi gyrru i bentref Mynytho gan
ein bod wedi dod o hyd i lawer o’r eiddo oedd yn y sêff o’r
pentref, ger yr ysgol. O’r fan honno, teithiodd y lladron 5
milltir i Bwlchtocyn lle daethpwyd o hyd i’r sêff ei hun.”
Cafodd y cardiau banc a gafodd eu dwyn eu
defnyddio ychydig cyn 5.00am y bore hwnnw yn Tesco Caernarfon ac
mae Heddlu gogledd Cymru’n awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd
unrhyw un amheus yn y lleoliadau hyn rhwng 2.00am a 5.00am.
Ychwanegodd PC Vowell: “Roedd hwn yn
ddigwyddiad ofnadwy gan ei fod wedi effeithio ar nifer o bobl
oedrannus ac agored i niwed. Mae un ddynes, a ddathlodd ei
phen-blwydd yn 104 yn ddiweddar, yn poeni’n arw am y gemwaith mae
hi wedi’i golli felly rwy’n annog unrhyw un sydd ag unrhyw
wybodaeth i gysylltu â’r Heddlu er mwyn i ni allu tawelu
meddyliau’r trigolion.”
Gofynnir i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth
i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu’n ddienw drwy
Crimestoppers ar 0800 55 111.