Lladrad yn Y Bala
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i ladrad
yn dilyn digwyddiad ym maes parcio Stryd Plase, Y Bala am oddeutu
hanner nos neithiwr nos Fercher 11 Gorffennaf 2012. Mi wnaeth
y troseddwyr ymosod ar ddynes leol, 50 mlwydd oed ac mi wnaethant
ddwyn ei heiddo. Cafodd y ddynes anaf difrifol i'w abdomen
ond mae bellach wedi cael ei rhyddhau o'r ysbyty.
Mae ditectifs yn apelio ar unrhyw dystion a
oedd yng nghyffiniau Stryd Plase, Y Bala rhwng 11.30pm nos Fercher
11 Gorffennaf a 12.30am fore dydd Iau 12 Gorffennaf ac a welodd
unrhyw weithgaredd neu unigolion amheus, yn enwedig dau ddyn a oedd
yn gwisgo topiau â chwfl, i gysylltu â nhw.
Meddai’r Uwch Swyddog Ymchwilio Ditectif
Arolygydd Keith Jones “Dyma ddigwyddiad difrifol ac mae Heddlu
Gogledd Cymru yn ymchwilio’n drylwyr iddo. Hoffwn apelio ar
unrhyw un a oedd yng nghyffiniau Stryd Plase neithiwr ac a welodd
unrhyw weithgaredd amheus i gysylltu â ni. Rydym yn
gwerthfawrogi ac yn dibynnu ar gymorth ein cymunedau i'n helpu ni i
ymchwilio i'r digwyddiadau hyn. Mae'r math hwn o drosedd yn
anghyffredin iawn yng Ngogledd Cymru a hoffwn dawelu meddyliau
trigolion Y Bala y byddwn yn ymlid y troseddwyr hyn gyda grym."
Os gweloch unrhyw weithgaredd amheus yn Y Bala
neithiwr neu os oes gennych unrhyw wybodaeth a fyddai o ddefnydd i
Heddlu Gogledd Cymru gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 101 neu
Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Nid oes rhagor o wybodaeth ar gael ar hyn o
bryd.