Cysylltu â’r Adran Cyfathrebiadau Corfforaethol
Mae Adran Cyfathrebiadau Corfforaethol Heddlu Gogledd Cymru yn
gyfrifol am gyfathrebiadau mewnol ac allanol yr Heddlu.
Ym Mhencadlys yr Heddlu ym Mae Colwyn, mae’r tîm o Swyddogion
Cyfathrebiadau Corfforaethol yn delio â chysylltiadau’r wasg ar
gyfer Heddlu Gogledd Cymru – sy’n cynnwys cyhoeddi apeliadau am
dystion, manylion am ddigwyddiadau, ymgyrchoedd a
gweithrediadau.
Mae’r swyddfa ar agor o 9.00 y bore tan 5.00 yr hwyr o
ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ffoniwch 01492 804666 neu ebostiwch – press&pr@nthwales.pnn.police.uk
Voicebank
Gallwch hefyd ffonio llinell gymorth y wasg ar 0871 550 0063.
Mae hon yn cael ei diweddaru’n gyson gyda manylion am ddigwyddiadau
o bwys, datganiadau, apeliadau am dystion a’r newyddion
diweddaraf.
Tu allan i oriau’r swyddfa
Os nad yw eich ymholiad y tu allan i oriau’r swyddfa yn un sydd
angen ymateb ar frys, gallwch adael negeseuon ar beiriant ateb y
swyddfa sef 01492 804666.
Ar gyfer galwadau argyfwng yn unig
Os byddwch yn gwneud galwad y tu allan i oriau’r swyddfa,
ffoniwch 101 neu 0845 607 1001, a bydd eich galwad yn cael ei
throsglwyddo i Reolwr Digwyddiadau’r Heddlu.
Mae Swyddog y Wasg ar alwad 24 awr y diwrnod, 365 diwrnod y
flwyddyn.
Mae llinell y wasg yn cael ei diweddaru’n gyson gyda manylion am
ddigwyddiadau o bwys. Fe ddylai aelodau o’r wasg wrando ar y
wybodaeth hon cyn ffonio Rheolwr Digwyddiadau’r Heddlu.
Mae datganiadau i’r wasg hefyd yn cael eu diweddaru
ar y wefan .