Gwrthdrawiad Traffig Angheuol ym Mwcle
Am 4.52pm ddydd Llun 2il Ebrill galwyd y
gwasanaethau brys i wrthdrawiad rhwng beic modur Suzuki glas a
cherbyd Hyundai du ar gyffordd Ffordd Linthorpe a Knowle Lane ym
Mwcle. Aethpwyd â'r beiciwr modur mewn ambiwlans i Ysbyty’r
Countess of Chester lle bu farw o’i anafiadau.
Mae’r dyn wedi cael ei enwi fel Antony
WHITEHOUSE, 51 oed, oedd yn byw yn lleol. Mae ei deulu
wedi cael eu hysbysu. Dioddefodd reidiwr piliwn y beic modur
anafiadau difrifol ac mae ar hyn o bryd mewn cyflwr sefydlog yn yr
ysbyty.
Arestiwyd gyrrwr yr Hyundai, dynes leol
23 oed, ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru peryglus
ac mae wedi ei mechnïo i ddychwelyd i orsaf heddlu ym mis
Mehefin tra gwneir rhagor o ymholiadau.
Yn siarad drwy Swyddog Cyswllt Teuluol yr
Heddlu, dywedodd y teulu: ‘Tony oedd cannwyll ein llygaid, un o
fil, bob amser yn llawn ysbryd ac egni. Ei blant, sy’n 14 ac
yn 11 oed, oedd ei fyd. Bydd hiraeth ei deulu ar ei ôl
yn enbyd a bydd ei ffrindiau lu yn gweld ei eisiau'n
fawr. Mae ei deulu’n gofyn am breifatrwydd ar yr adeg anodd
hon’.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i unrhyw un
a welodd y gwrthdrawiad neu a allai fod â gwybodaeth a fyddai’n
cynorthwyo â'r ymholiad i gysylltu â PC Aled Jackson yn Uned
Plismona'r Ffyrdd Glannau Dyfrdwy ar 101. Fel arall gellir
cysylltu â Crimestoppers ar 0800 555 111