Carchar i dreisiwr o Wynedd
Ar 23 Mai 2012, ymddangosodd dyn 27 oed o
Benygroes, Alexander Charles Lawson Thomas gerbron Llys y Goron
Caernarfon wedi’i gyhuddo o dreisio tair dynes yn ardaloedd Bangor
a Phenygroes rhwng 2006 a 2010.
Cafodd ei ddedfrydu i gyfnod amhenodol a bydd
yn treulio o leiaf chwe blynedd yn y carchar. Bydd hefyd yn cael ei
roi ar y Gofrestr Troseddwyr Rhyw am oes.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Dafydd
Hughes “Fe wnaethoch orfodi eich dioddefwyr i fynd drwy’r boen o
roi tystiolaeth ac fe ddangosoch chi ddirmyg a haerllugrwydd tuag
at ferched yn gyffredinol.”
Croesawodd DC Andrew Evans o Heddlu Gogledd
Cymru y ddedfryd gan ychwanegu ei bod hi’n bwysig cyfleu neges glir
na fydd Heddlu Gogledd Cymru na’r Llysoedd yn dioddef troseddau o’r
math hwn. Diolchodd DC Edwards i Wasanaeth Erlyn y Goron am eu
harweiniad yn yr achos ac fe roddodd ganmoliaeth i’r dioddefwyr am
eu dewrder a’u penderfynoldeb i sefyll i fyny i’r dyn hwn.
Cynhaliodd swyddogion arbenigol gyfweliadau cychwynnol â’r
dioddefwyr gan eu cefnogi drwy gydol yr ymchwiliad a’r achos
llys.
Ychwanegodd DC Edwards: “Mae’n bwysig fod pawb
yn y gymuned yn ymwybodol y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi’r
cymorth arbenigol priodol er mwyn cynorthwyo dioddefwyr ar bob cam
o’r broses. Mae Heddlu Gogledd Cymru’n cymryd y materion hyn o
ddifrif felly mae’n galonogol gweld y ddedfryd hon yn cael ei
rhoi.”