Trigolion Pennal yn cael eu symud rhag
llifogydd
Mae Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wedi bod
yn symud trigolion o bentref Pennal, ger Machynlleth ar ôl i fwlch
ymddangos yn yr argae.
Mae’r trigolion yn cael eu cludo i Ganolfan
Hamdden Machynlleth. Mae staff o’r cynghorau lleol, cynrychiolwyr
o’r bwrdd dŵr lleol, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu
Gogledd Cymru yn y lleoliad.
Credir ar hyn o bryd mai tirlithriad sydd wedi
achosi’r broblem.
Eglurodd yr Uwcharolygydd Andy Jenks-Gilbert:
“Rydym yn gofyn i bobl adael eu tai rhag ofn i’r sefyllfa
waethygu.
“Mae’r dŵr yn llifo dros wal gerrig yr argae i
mewn i chwarel sydd â’r Afon Pennal yn llifo drwyddi. Mae crac wedi
ymddangos yn y wal gan achosi ychydig o ddŵr i allu gollwng. Petai
cynnwys cyfan yr argae yn mynd i’r afon byddai’n effeithio ar
drigolion Pennal sy’n byw tua ½ milltir i ffwrdd o’r argae.
“Mae Swyddogion Heddlu yn gofyn i drigolion yn
yr ardal adael eu cartrefi ac yn annog ymwelwyr i osgoi’r ardal ar
hyn o bryd.”