Gardd Gymunedol ac Ysgol Pentraeth
Mae plant ysgol ym Mhentraeth wedi troi congl
o’u hysgol, a arferai ddenu pobl ifanc yno i ‘loetran’ gyda’r
nosau, yn ardd gymunedol y gall y gymuned gyfan fod yn falch
ohoni.
Mae nifer o rieni, plant ysgol ac aelodau
eraill o’r gymuned wedi cyfrannu tuag at drawsnewid y llecyn o dir
gwastraff gan blannu blodau, llwyni a pherlysiau ond mae ganddynt
hefyd le i fwy. Meddai’r Rheolwr Prosiect Suzanne Winfield, sydd
hefyd yn rhiant “Mae’n braf gweld pawb yn dod at ei gilydd ond
gallwn bob amser wneud efo mwy o gymorth neu blanhigion felly dewch
draw. Mae’r plant hefyd yn dysgu llawer iawn am arddio ac ymfalchïo
yn eu cymunedau”
Ychwanegodd SCCH lleol Iona Beckman o Heddlu
Gogledd Cymru “Arferai’r ardal hon fod yn un a oedd yn denu mân
achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, roedd llawer o sbwriel yno
ac roedd yn hynod o flêr. Gyda chymorth cyfraniad o £173 gan PACT
(Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned) bu modd i ni brynu nifer o
declynnau garddio ac offer arall a gydag ychydig o waith caled ac
ychydig o hwyl rydym wedi gallu creu’r ardd hyfryd hon a fydd yn
elwa’r gymuned gyfan ac yn lleihau nifer yr achosion o Ymddygiad
Gwrthgymdeithasol.”
Os hoffai unrhyw un gyfrannu unrhyw
blanhigion, offer neu wirfoddoli am ychydig oriau yn yr ardd,
cysylltwch ag Ysgol Pentraeth ar 01248 450315 neu SCCH Iona Beckman
ar 07854 400 606.