Lansio Ymgyrch Gwarchod Ysgolion yn Sir Gonwy
28/06/2012
Mae ymgyrch sy’n annog trigolion i gadw golwg
ar eu hysgol leol wedi cael ei lansio yng Nghonwy.
Mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Diogelwch
Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych, bwriad yr ymgyrch Gwarchod Ysgolion
yw annog rhieni, trigolion, athrawon, y gwasanaethau brys ynghyd
â’r awdurdodau lleol i weithio gyda’i gilydd er mwyn cadw ysgolion
yn ddiogel rhag trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Yr wythnos hon mi wnaeth disgyblion Ysgol
Porth y Felin yng Nghonwy gyfarfod swyddogion o’r Tîm Plismona’r
Gymdogaeth lleol, staff o’r Adran Diogelwch Cymunedol, y Tîm
Lleihau Llosgi Bwriadol, y Gwasanaeth Tân ac Achub a staff o Adran
Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Meddai Ifan Hughes, Swyddog Diogelwch
Cymunedol: “Mae’r ysgolion ar fin cau am wyliau’r haf, ac rydym yn
apelio ar aelodau o’r cyhoedd i fod yn wyliadwrus ac i riportio
unrhyw ymddygiad amheus y maent yn ei weld o amgylch tir yr
ysgol.
“Yn y gorffennol, mae ysgolion wedi cael eu
fandaleiddio a’u gorchuddio â graffiti. Yn syml, rydym yn gofyn i
bobl sy’n byw ger ysgol i fod yn wyliadwrus ac i riportio unrhyw
ymddygiad amheus i’r heddlu.”
Fe ychwanegodd: “Hon fydd yr wythfed flwyddyn
i ni gynnal y cynllun ac rydym wedi gweld gostyngiad yn y nifer o
broblemau sy’n cael eu riportio, ond nid ydym yn hunanfodlon.
Gallwn i gyd fod yn rhan o’r cynllun hwn, felly os ydych yn
byw ger ysgol, os ydych yn gallu gweld ysgol o’ch tŷ, neu os ydych
yn cerdded neu yn gyrru heibio ysgol yn eithaf aml, yna mi allwch
chi helpu.”
Meddai Tom Pye, Rheolwr Partneriaeth y
Gwasanaeth Tân ac Achub ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych : “Yn
hanesyddol, mae ysgolion wedi dioddef o fandaliaeth a thanau
bwriadol, a bwriad yr ymgyrch hon yw taclo’r problemau hyn cyn
iddynt ddigwydd.”
Meddai Mr Dilwyn Griffiths, Pennaeth Ysgol
Porth y Felin: “Mae hwn yn rhywbeth yr ydym yn ei groesawu. Mae
ysgolion yn agored i gael eu targedu dros gyfnod y gwyliau, felly
po fwyaf y gallwn weithio gyda rhieni ac aelodau’r gymuned i geisio
lleihau difrod troseddol i’r ysgol, yna lleia’n byd fydd y siawns y
bydd addysg y disgyblion yn cael ei amharu.”
Bydd arwyddion arbennig, sydd wedi cael eu
hariannu gan y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol, yn cael eu gosod ar
giatiau’r ysgolion, ac mae dros 8,000 o bamffledi a phosteri wedi
cael eu dosbarthu drwy Gonwy a Sir Ddinbych. Bydd y cynllun yn cael
ei lansio mewn ardaloedd eraill o Ogledd Cymru dros y pythefnos
nesaf.
Bydd swyddogion tân sy’n dychwelyd i’w
gorsafoedd ar ôl bod allan ar alwad, yn ogystal â hofrennydd yr
heddlu hefyd yn cadw llygad ar ysgolion.
Dylai unrhyw un sy’n dyst i ymddygiad amheus
ger ysgol gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu Crimestoppers
Cymru yn ddienw ar 0800 555 111. Mewn argyfwng dylech ffonio
999.
Cofiwch: Ydych chi’n byw ger ysgol neu yn
gallu gweld ysgol o’ch tŷ? Ydych chi’n cerdded neu’n gyrru heibio
ysgol yn rheolaidd? Os mai ‘YDW’ yw’r ateb yna gallwch chi ein
helpu!
Edrychwch ar yr ysgol am ychydig o
funudau.
Os gwelwch unrhyw beth amheus – dywedwch wrth
yr heddlu drwy ffonio 101!