Lansio Ymgyrch Gwarchod Ysgolion yng Ngwynedd
13/07/2012
Mae ymgyrch i geisio annog pawb i gadw golwg
ar ysgolion Gogledd Cymru er mwyn eu cadw’n ddiogel rhag trosedd
dros wyliau’r haf wedi cael ei lansio yng Ngwynedd.
Yr wythnos hon mi wnaeth disgyblion o
Borthmadog a Bethesda ymgynnull yn eu canolfan hamdden leol i
lansio’r ymgyrch Gwarchod Ysgolion. Cawsant gyfle i ddysgu am waith
yr heddlu ac edrych ar offer a cherbydau Gwasanaeth Tân ac Achub
Gogledd Cymru.
Cawsant hefyd gyfle i gyfarfod Swyddogion
Cymuned Ysgol yr Heddlu, Diffoddwyr Tân, aelodau o’r Adran
Diogelwch Cymunedol, y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol a Swyddogion
Cefnogi Cymunedol yr Heddlu.
Nod yr Ymgyrch Gwarchod Ysgolion yw annog
rhieni ac athrawon, yn ogystal â’r gwasanaethau brys a’r awdurdodau
lleol i gydweithio er mwyn cadw ysgolion yn ddiogel rhag trosedd ac
ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Bydd diffoddwyr tân sy’n dychwelyd i’w gorsafoedd ar ôl bod
allan ar alwad, yn ogystal â hofrennydd yr heddlu hefyd yn cadw
llygad ar ysgolion.
Mae Norman Hughes, Swyddog Lleihau Trosedd
Gwynedd yn erfyn ar y cyhoedd i fod yn wyliadwrus ac i riportio
unrhyw ymddygiad amheus y maent yn ei weld o amgylch
ysgolion. Fe ddywedodd: “Cyllideb gyfyngedig sydd gan
ysgolion ac mae adnoddau gwerthfawr a ddylid cael eu defnyddio i
addysgu’r disgyblion yn cael eu defnyddio er mwyn taclo achosion o
ddwyn a difrod troseddol. Gall ysgolion hefyd fod yn darged i
graffiti a fandaliaeth yn ystod gwyliau’r haf. Rydym yn dibynnu ar
gefnogaeth aelodau’r cyhoedd ac yn eu hannog i riportio
digwyddiadau i’r Heddlu neu Taclo’r Tacle yn ddienw.”
Meddai Kevin Jones, Rheolwr Tîm Lleihau Llosgi
Bwriadol, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Yn hanesyddol mae
ysgolion wedi dioddef o danau bwriadol a fandaliaeth, a bwriad yr
ymgyrch hon yw taclo’r problemau hyn cyn iddynt ddigwydd.”
Mae pamffledi a phosteri yn cael eu dosbarthu
o amgylch Gwynedd er mwyn atgoffa’r cyhoedd o’r ymgyrch sydd hefyd
yn ceisio helpu i leihau digwyddiadau sydd nid yn unig yn cael
effaith ar yr ysgol ond y gymuned gyfan.
Dylai unrhyw un sy’n dyst i ymddygiad amheus
ger ysgol gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru. Os yw’r drosedd yn
digwydd yn y fan a’r lle deialwch 999. Os nad yw’n argyfwng
dylech ffonio 101 neu Taclo’r Tacle Cymru yn ddienw ar 0800 555
111.
Gellir llawr lwytho’r posteri o’r dudalen
yma