Gŵyl Wakestock Pwllheli 2012
Eleni mae trefnwyr Gŵyl Wakestock ym Mhwllheli
a gynhelir rhwng dydd Gwener 6ed a dydd Sul 8fed Gorffennaf yn
paratoi ar gyfer problemau rheolaeth traffig posibl drwy gyflwyno
gwasanaeth parcio a theithio i feysydd parcio penodol er mwyn
lleihau llif y traffig yn yr ardaloedd cyfagos.
Meddai Bex Tappin Swyddog Cysylltiadau
Cyhoeddus Wakestock “Mae’r trefniadau yn mynd yn dda a byddwn yn
barod ar gyfer Gŵyl Wakestock. Fel gweddill y wlad mae llawer
o law wedi syrthio ar dir yr ŵyl yn ystod y misoedd a’r wythnosau
diwethaf. Oherwydd hyn mae caeau’r meysydd parcio yn eithaf
llaith ac efallai y bydd rhai yn cael anhawster wrth gyrraedd a
gadael y safle.
“Oherwydd hyn mae Wakestock wedi trefnu
lleoliad parcio a theithio ym maes parcio’r Clwb Hwylio ym Marina
Pwllheli ble gall unigolion barcio a chyfarfod y bws gwennol sy’n
mynd â chi i fynedfa’r ŵyl. Bydd y bysys yn rhedeg yn
rheolaidd o'r Maes ym Mhwllheli, Y Clwb Hwylio a safle Gŵyl
Wakestock ym Mhen Rhos. Mae'r cyfleuster hwn ar gael hefyd
i'r rhai hynny sy'n hebrwng unigolion i ac o'r ŵyl. Bydd
meysydd parcio safle'r ŵyl ar agor ond fe argymhellir bod unigolion
yn defnyddio'r cyfleuster parcio a theithio er mwyn osgoi unrhyw
oedi."
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cefnogi ac yn
annog unigolion i ddefnyddio’r cyfleuster parcio a theithio ac fe
ychwanegodd Arolygydd Dewi Jones “Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn
hwyluso mynediad i ac o’r safle a hefyd yn hwyluso pethau i'r
gymuned leol a defnyddwyr eraill y ffordd. Wrth gwrs bydd y
tywydd yn cael effaith ar y safle a bydd yn cymryd mwy o amser i
unigolion fynd i mewn ac allan o'r meysydd parcio ac felly gofynnaf
i chi fod yn amyneddgar a chaniatáu rhagor o amser ar gyfer eich
taith. Oherwydd y tywydd rwyf hefyd yn argymell i chi wisgo
dillad addas ar gyfer yr amodau”.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr ŵyl
gallwch fynd i wefan Wakestock 2012.