Mae Cam-drin Domestig yn Drosedd
Y diffiniad cyffredinol o gam-drin domestig yw unrhyw ddigwyddiad o ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng oedolion sydd mewn, neu sydd wedi bod mewn perthynas agos efo’i gilydd, neu rhwng aelodau eraill o deulu sy’n oedolion. Mae’n cynnwys perthnasau heterorywiol, hoyw, lesbiaidd, deurywiol, trawsrywiol a theuluoedd estynedig.
Mae cam-drin domestig yn digwydd pan mae unigolyn neu unigolion yn camddefnyddio’u pŵer yn emosiynol, corfforol, rhywiol, seicolegol neu economaidd ac yn arfer rheolaeth dros aelod o'u teulu, partner neu gynbartner, ni waeth be fo’u rhyw, oedran neu dueddfryd rhywiol.
Pwy sy'n gyfrifol am y gamdriniaeth?
Gall unrhyw un, o unrhyw gefndir, ddioddef Camdriniaeth Ddomestig. Yr unig un sy’n gyfrifol am y gamdriniaeth yw’r camdriniwr. Does dim rhaid iddyn nhw ddefnyddio trais, does ganddyn nhw ddim esgus.
Fel dioddefwr, dydych chi wedi gwneud dim o’i le. Dydych chi ddim ar fai.
Mae cam-drin domestig yn drosedd sy’n torri ar draws ffiniau cymdeithasol, ddiwylliannol, a chrefyddol.
Mae’r canlyniadau’n niweidiol a phellgyrhaeddol i ddioddefwyr, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach.
Nid yw’n dderbyniol dan unrhyw amgylchiadau.
I riportio digwyddiadau o gam-drin domestig, ffoniwch 999, neu ar gyfer digwyddiadau nad ydynt yn rhai brys ffoniwch Heddlu Gogledd Cymru ar 0845 607 1001
I gael gwybodaeth a chefnogaeth gyfrinachol am ddim ffoniwch Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cymru ar 0808 80 10 800
Y 'Bidman Cycle'