chwiliwch yr wefan hon

What do you think of our website?  Link to online survey
Di-Argyfwng
0845 6071001
TypeTalk: 01978 294738
Minicom: 01978 294680
go to Community Forums

Dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi mabwysiadu Cynllun Cyhoeddi fydd yn cael ei gynnal a'i gadw'n barhaus er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn dull rhagweithiol i'r cyhoedd.   Mae'r cynllun wedi cael ei gymeradwyo gan y Comisiynydd Gwybodaeth ac mae'n dilyn y fformat safonol a ddefnyddir gan wasanaethau Heddlu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ym mis Medi 2008.

Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno gwasanaeth agored a thryloyw lle bynnag y bo hynny'n bosibl a'n bwriad yw cyhoeddi gwybodaeth sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd ddiddordeb  ar ein Cynllun Cyhoeddi.

Fodd bynnag, am ein bod wedi ymrwymo i ddiogelu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu ac i atal a datgelu trosedd, rhaid cydnabod bod rhai mathau o wybodaeth, er  budd y cyhoedd, na ddylid ei datgelu. Rhaid diogelu gwybodaeth parthed ymchwiliadau sydd ar y gweill, dulliau ymchwilio, cudd-wybodaeth a'r defnydd o dechnegau gweithredol cysylltiedig.   Maent yn hanfodol bwysig o ran cynnal cymdeithas ddiogel a chyfiawn.Yn y cyswllt hwn, bydd Heddlu Gogledd Cymru, pan fo hynny'n briodol, yn rhoi ystyriaeth resymol i'r eithriadau a ganiateir dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, yn arbennig felly:  Adran 30 Ymchwiliadau a Gweithdrefnau Sy'n Cael Eu Cynnal Gan Awdurdodau Cyhoeddus, Adran 31 Gorfodi'r Gyfraith ac Adran 41 Gwybodaeth a Roddir yn Gyfrinachol . 

Cafodd y cynllun ei drefnu yn unol â'r diffiniadau a ddarparwyd gan y Comisiynydd Rhyddid Gwybodaeth gan ddefnyddio categorïau gwybodaeth gosodedig.   Mae gwybodaeth benodol ar gael yn uniongyrchol ar y cynllun ac mewn achosion eraill, lle cyhoeddir gwybodaeth rywle arall, naill ai ar brif wefan Heddlu Gogledd Cymru neu wefan allanol, bydd hyperddolenni addas yn arwain y darllenydd at yr wybodaeth.  

Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch cynllun cyhoeddi Heddlu Gogledd Cymru gan :

Y Tîm Rhyddid Gwybodaeth
Grwp Gwelliannau orfforaethol
Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru
Glan-y-Don
Colwyn Bay,
Conwy
LL29 8AW.
Ffôn (01492) 805433

Neu drwy e.bost at: FreedomOfInformation@north-wales.police.uk