chwiliwch yr wefan hon

Canlyniadau Arolwg Hyder Lleol i Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru:

Mae’r Llywodraeth wedi gosod targed ar gyfer pob heddlu er mwyn codi hyder y cyhoedd bod yr heddlu a’r cyngor lleol yn ymdrin â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd sy’n bwysig yn lleol.

Dyma gyfran y bobl a oedd yn rhan o’r arolwg a oedd yn cytuno bod yr heddlu a’r cyngor lleol yn ymdrin â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd sy’n bwysig yn eu hardal.

ArdalCyfran
Ynys Môn59.4%
Conwy67.0%
Sir Ddinbych63.0%
Sir y Fflint60.9%
Gwynedd64.0%
Wrecsam69.7%
Gogledd Cymru 64.0%

Dyma ganlyniadau arolwg dros y ffôn a gynhaliwyd yn yr ardal hon a oedd yn gofyn i bobl leol a oeddent yn cytuno a’r gosodiad:

“Mae’r heddlu a’r cyngor lleol yn ymdrin â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd sy’n bwysig yn yr ardal hon”.

Dylid cymryd gofal wrth wneud cymariaethau rhwng dangosyddion lleol sydd wedi defnyddio technegau arolwg gwahanol. Mae’r arolwg hwn wedi ei seilio ar sampl cwota o bobl yn yr ardal leol. Y bwriad wrth ddefnyddio sampl cwota yw sicrhau bod y canlyniadau yn fras gynrychiadol o’r boblogaeth leol. Gall samplau cwota yn anfwriadol gyflwyno ffynonellau anhysbys sy’n achosi gogwydd ystadegol.

Darllenwch crynodeb gweithredol yr Arolwg Hyder Lleol yma.