chwiliwch yr wefan hon

What do you think of our website?  Link to online survey
Di-Argyfwng
0845 6071001
TypeTalk: 01978 294738
Minicom: 01978 294680
go to Community Forums
PoliceBeth mae hynny yn ei olygu?

Mae'r raddfa trosedd ac anhrefn yng Ngogledd Cymru yn gymharol isel, a bu gostyngiad yn nifer y bobl gafodd eu lladd neu eu hanafu yn ddifrifol ar y ffyrdd. Gan adeiladu ar y sylfaen gadarn hon, yr ydym yn gwella ein gwasanaethau'n gyson gyda golwg ar sicrhau:

Llai o Droseddu
Llai o Anhrefn
Llai o Ofn Troseddau
Ffyrdd mwy Diogel

TAWELU MEDDWL
Mae canran y swyddogion welwch chi yn gwisgo lifrai yng Ngogledd Cymru ymhlith yr uchaf mewn cymhariaeth â Heddluoedd eraill yng Nghymru a Lloegr. Bydd Rheolwyr Rhawd Gymunedol, trwy weithio mewn partneriaeth â chymunedau lleol, yn rhoi eu hamser a'u hegni i wrando ar anghenion a phryderon pobl leol.

YMATEB
Trwy weithio tuag at wella ein gallu i ymateb yr ydym wedi gwella ein hyfforddiant gyrru, wedi cyflwyno nifer o geir ardal ac wedi ymestyn oriau gweithredu'r Uned Hofrennydd. Ar ben hynny mae yna dimau arbenigol sy'n gweithio 24 awr y dydd i ddelio gyda digwyddiadau difrifol.

ARGAELEDD
Yr ydym yn ei gwneud yn haws i bobl gyrraedd at ein gwasanaethau trwy edrych eto ar adeiladau'r heddlu a chyflwyno gorsafoedd symudol, lle bydd y dechnoleg fwyaf modern. Yr ydym yn gwneud gwelliannau go iawn yn y ffordd yr ydym yn delio gyda galwadau ffôn sydd ddim yn rhai brys ac, yn fuan, byddwch yn gallu defnyddio'r rhyngrwyd i dderbyn ein gwasanaethau.

DATRYS PROBLEMAU
Datrys problemau yn effeithiol - dyna yw'r allwedd i ostwng lefel troseddau, lefel camddefnyddio cyffuriau, anhrefn a damweiniau car difrifol. Felly mae'r Heddlu wedi buddsoddi mewn hyfforddi Swyddogion mewn plismona sy'n canolbwyntio ar y problemau sylfaenol, gan ddod o hyd i atebion tymor hir yn hytrach na datrys problemau dros dro.

GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH
Yn amlwg, mae gan gyrff eraill eu rhan i'w chwarae os ydym, gyda'n gilydd, am ddatrys y problemau sylfaenol sy'n arwain at drosedd ac anhrefn. Felly mae'r Heddlu wedi mabwysiadu trefn o weithio mewn partneriaeth mewn nifer o fentrau a fydd yn achosi gwelliannau sylweddol dros gyfnod o amser. Mae gennym waith ar y gweill sy'n canolbwyntio ar anghenion pobl fregus, anghenion cymunedau ethnig lleiafrifol a throseddau sy'n ymwneud â chyffuriau.

Beth yw ein hymrwymiad i chi?

Cadw at y safonau uchaf bob amser o safbwynt gonestrwydd a chywirdeb

Dal i ymateb i anghenion y gymuned leol

Darparu gwasanaeth heddlu ardderchog, sy'n mynd ymhellach na disgwyliadau'r cyhoedd

Bod wrth galon y cymunedau lleol, yn gweithio gyda chi i wella ansawdd bywyd