
Beth yw hyn?
Set o safonau yw’r 'Addewid Plismona’ sy’n dweud wrthych beth yw’r lefel gwasanaeth yr ydym yn ceisio ei gyflwyno i bawb sy'n byw ac yn ymweld â Gogledd Cymru. Cytunwyd y deg Addewid gwreiddiol gan Wasanaeth yr Heddlu’n genedlaethol, ond rydym wedi ychwanegu addewid sy’n cefnogi ein hymrwymiad i ddarparu gwir wasanaeth dwyieithog ym mhob peth yr ydym yn ei wneud gyda’r cyhoedd.
Beth yw ystyr hyn i chi?
Fe’i cynlluniwyd i roi llais cryfach i chi ynghylch sut rydym yn mynd i’r afael â throseddau yn eich cymdogaeth, ac i dawelu eich meddwl ein bod yn mynd i’r afael â’r hyn sy’n bwysig i chi.
Mae’n cynnwys nifer o feysydd plismona, yn cynnwys safonau ar gyfer ateb y ffôn yn brydlon, sut gallwch leisio barn ynghylch dulliau plismona yn eich cymdogaeth, sut gallwch ddisgwyl derbyn gwybodaeth gyfoes ynghylch troseddau lleol, a sut byddwch yn cael eich cefnogi os ydych yn dioddef trosedd. Pan fyddwn yn gwneud camgymeriad, rydym am adfer y sefyllfa yn gyflym a byddwn bob amser yn croesawu sylwadau adeiladol ynghylch sut gallwn wella’r gwasanaeth yr ydych yn ei gael.
Dirprwy Brif Gwnstabl - Ian Shannon
Chadeirydd Awdurdod yr Heddlu - Ian Roberts