chwiliwch yr wefan hon

What do you think of our website?  Link to online survey
Di-Argyfwng
0845 6071001
TypeTalk: 01978 294738
Minicom: 01978 294680
go to Community Forums

Yn y flwyddyn 2000, gosododd y Llywodraeth (yr Adran Drafnidiaeth) dargedau lleihau anafiadau ffyrdd i’w cyflawni erbyn y flwyddyn 2010 (yn erbyn cyfartaledd ar gyfer 1994-98).

  • gostyngiad o 40% yn y niferoedd sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol
  • gostyngiad o 50% yn y nifer o blant sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol
  • gostyngiad o 10% yn y gyfradd mân anafiadau

Yn ychwanegol at hynny, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gosod targed ychwanegol ar gyfer 2009/10, sef cyflawni:

  • gostyngiad o 10% yn y nifer o wrthdrawiadau sy’n lladd neu’n anafu gyrwyr ifanc (rhwng 16 a 25 oed) yn ddifrifol.

Gweithio mewn partneriaeth yw sylfaen ein strategaeth a byddwn yn cyfathrebu ac yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cynulliad Cymru, y chwe Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a’r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA).

Bydd cydymffurfiaeth â deddfwriaeth diogelwch y ffyrdd yn lleihau'r tebygolrwydd o wrthdrawiadau a marwolaethau ac anafiadau ar y ffordd. Gellir cyflawni'r gydymffurfiaeth hon drwy Beirianneg (y ffyrdd a cherbydau), Addysg (ffurfiol ac anffurfiol) a Gorfodaeth. Mae ein strategaeth gorfodaeth ar gyfer lleihau anafiadau ffyrdd wedi’i oleuo gan ymchwil rhyngwladol a chenedlaethol sy’n darparu tystiolaeth bod camau gorfodaeth yn lleihau anafiadau ffyrdd a bod yr unigolion hynny sy’n cyflawni troseddau traffig yn fwy tebygol o fod yn rhan o wrthdrawiad.

Lefel uchel o orfodaeth o droseddau sy’n gysylltiedig â gyrru anghyfreithlon (gyrru tra wedi’u gwahardd, dim trwydded, dim yswiriant) a'r 5 Angheuol (troseddau sydd, drwy waith ymchwil, wedi eu hadnabod fel y pum ffactor sy'n cyfrannu fwyaf at farwolaeth ac anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiadau traffig y ffordd sef yfed a gyrru, goryrru, peidio gwisgo gwregys diogelwch, defnyddio ffôn symudol a gyrru peryglus).

Fe dargedir y rhai hynny sydd â risg uwch o fod yn rhan o wrthdrawiadau drwy ddefnyddio dulliau dadansoddi sydd wedi adnabod dau grŵp i’w blaenoriaethu ymysg y ffigyrau o bobl sy'n cael eu hanafu sef gyrwyr ifanc a beicwyr modur. Mae strategaethau penodol wedi eu datblygu er mwyn lleihau’r risg maent yn ei beri iddyn nhw eu hunain ac unigolion eraill sy’n defnyddio’r ffordd.

Gyrwyr Ifanc

Ymgyrch yw Ffrindiau Peryg Bywyd (Deadly Mates) sydd wedi’i anelu at unigolion sy’n teithio gyda gyrwyr ifanc yn bennaf. Mae’r ymgyrch yn cynnwys brand, deunydd darllen a gwefan ac mae’r ymgyrch wedi’i fabwysiadu ledled Cymru. Mae’r ymgyrch yn targedu targedau gweithredu ar gyfer yr holl yrwyr ifanc ar amseroedd a lleoliadau allweddol a thargedu PPO sydd yna’n cael ei ddilyn gan ymweliad â’r cartref a chynnig o hyfforddiant ar ôl iddynt basio eu prawf. WWW.DEADLYMATES.COM

Beicwyr Modur

Mae’r ymgyrch Focus yn ymgyrch tymhorol sy'n rhedeg ar ddydd Sadwrn a dydd Sul rhwng y Pasg a mis Hydref bob blwyddyn gan ddefnyddio arian Cyrsiau Ymwybyddiaeth Cyflymder. Bydd swyddogion yn siarad â Beicwyr Modur ym mhyrth yr Heddlu er mwyn eu cynghori am wahanol adnoddau sy’n plismona ffyrdd poblogaidd sydd â’r bwriad o ddatgelu a chosbi unrhyw droseddau sy’n dod i’r amlwg. Cyfeirir Beicwyr Modur at Bikesafe, sy'n cael ei ariannu gan drigolion Gogledd Cymru, tra rhoddir cyfle i droseddwyr fynychu'r cwrs RIDE yn lle cael pwyntiau cosb ar eu trwyddedau. WWW.BIKESAFE.CO.UK

Partneriaeth Camerâu

Mae’r partneriaethau camerâu diogelwch yng Nghymru wedi eu huno er mwyn creu un bartneriaeth Cymru gyfan. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru, pob un o’r 22 Awdurdod Lleol, y Pedwar Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi.

Penderfynir ar leoliad camerâu sefydlog (Gatsos) a lleoliad cerbydau symudol drwy ddadansoddi ystadegau anafiadau a marwolaethau ar y ffordd. Mae gan y bartneriaeth hefyd y gallu i ymateb i gwynion cymunedol sy'n ymwneud â goryrru. http://www.arrivealive.org.uk