chwiliwch yr wefan hon

What do you think of our website?  Link to online survey
Di-Argyfwng
0845 6071001
TypeTalk: 01978 294738
Minicom: 01978 294680
go to Community Forums

Trwy Ffonio
Os oes arnoch angen cymorth AR FRYS gan yr heddlu, dylech ffonio 999 bob amser. Mae’r system hon ar gyfer argyfyngau go iawn yn unig, lle mae perygl i fywyd neu eiddo ar unwaith. Dylid ei defnyddio mewn modd cyfrifol fel bod argyfyngau go iawn yn cael sylw. Ond os oes gennych broblem neu gwestiwn, neu os ydych yn rhan o ddigwyddiad heb fod yn achos brys sy'n gofyn am sylw'r heddlu, dylech alw'r rhif isod.
HEB FOD YN FRYS: 0845 607 1001

Nawr gallwch ffonio 101, rhif di-frys 24 awr ar gyfer yr Heddlu yng Nghymru lle gallwch riportio problemau nad ydynt angen ymateb 999.

Byddwch yn siarad â’ch heddlu lleol a fydd yn riportio’r broblem ar eich rhan.

 

Trwy gyfrwng e-bost
Ni ddylid defnyddio e-bost i riportio trosedd neu ddigwyddiad i Heddlu Gogledd Cymru mewn argyfwng. Mae cyswllt e-bost yn cael ei ddarparu ar gyfer ymholiadau cyffredinol yn unig ac er mwyn rhoi gwybodaeth i'r heddlu. Os yw’r wybodaeth yr ydych am ei rhoi yn cyfeirio at drosedd neu ddigwyddiad a gafodd ei riportio o’r blaen i’r heddlu, dylech gynnwys rhif trosedd neu ddigwyddiad (os ydych yn ei wybod) yn y llinell destun, neu rhowch ddigon o wybodaeth e.e. dyddiad, amser, lleoliad, i’n cynorthwyo i’w ganfod yn ein cofnodion. Er mwyn riportio trosedd neu ddigwyddiad, defnyddiwch y rhifau ffôn cyswllt a roddwyd uchod.
northwalespolice@north-wales.police.uk

Os ydych yn fyddar, yn drwm eich clyw, os oes nam ar eich lleferydd neu os na allwch gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru trwy gyfrwng ffôn llais, gallwch gysylltu â ni trwy gyfrwng typetalk, minicom, neges destun SMS neu ffacs.

TypeTalk: 01978 294738

Minicom: 01978 294680

Neges Destun SMS mewn argyfwng
((o 25 Medi 2008)
(rhowch glic yma i gael mwy o wybodaeth ynghylch sut mae defnyddio’r gwasanaeth hwn)

Ffacs: 01492 510777
Dylid defnyddio hyn ar gyfer galwadau brys a heb fod yn frys. Os ydych am ddefnyddio’r system hon, dylech lawr lwytho a chynnwys y ffurflen ffacs isod.
Cysylltu trwy gyfrwng Ffacs

Trwy'r post
Os hoffech ysgrifennu at Heddlu Gogledd Cymru, gallwch wneud hynny. Cyfeiriwch eich llythyr at:

Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru
Glan-y-Don
Ffordd Abergele
Bae Colwyn
LL29 8AW

Os ydych yn gwybod enw’r swyddog neu’r adran sydd i dderbyn eich llythyr nodwch hwn fel llinell gyntaf y cyfeiriad.

Timau Plismona Cymdogaethau
Cofiwch, gallwch hefyd fynd i’ch gorsaf heddlu leol neu siarad gyda swyddogion sy’n patrolio’r gymuned.

Cliciwch yma i gael mynediad at eich Tîm Plismona Cymdogaethau yn ogystal â newyddion lleol, blaenoriaethau plismona, dulliau rhyngweithio, ynghyd â sut mae dylanwadu ar blismona yn eich ardal.