Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn yr Heddlu ac yn y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.
Mae gan bob aelod o’n cymunedau, waeth be fo’i statws, yr hawl i ddisgwyl gwasanaeth heddlu o’r radd flaenaf.
Ni ddylai unrhyw un gael ei drin yn llai ffafriol oherwydd ei liw, hil, cenedl, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, am ei fod wedi neu yn bwriadu newid rhyw,ei grefydd nac unrhyw statws arall.
Nod yr Uned Amrywiaeth yw addysgu pobl yn erbyn rhagfarn a throseddau casineb, rhoi cyngor ar bolisïau’r Heddlu mewn perthynas ag Amrywiaeth a Chydraddoldeb a chysylltu a thrafod ag aelodau o gymunedau amrywiol Gogledd Cymru.
Mae gan Heddlu Gogledd Cymru Uned Amrywiaeth arbenigol sy’n pwysleisio gwerth a phwysigrwydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ac yn rhoi cyngor ar bolisïau’r Heddlu yn y meysydd hyn. Ei nod yw sicrhau darpariaeth gwasanaeth plismona o ansawdd uchel i bawb a sicrhau bod staff yn deall gwerth amrywiaeth ac yn parchu unigrywiaeth ymysg eu cydweithwyr a’r cymunedau a wasanaethir ganddynt. Felly, bydd ein gwasanaeth yn ymateb i amrywiaeth ein cymunedau a’n diwylliannau lleol oherwydd dim ond trwy drin a thrafod yn effeithiol gyda’n cymunedau amrywiol y gallwn ni blismona’n effeithiol.
Beth yw Amrywiaeth?
Mae Amrywiaeth yn derm sy’n cael ei ddefnyddio’n gyffredinol am wahaniaethau sy’n bodoli ymysg pobl mewn meysydd sy’n cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, oedran, hil, ethnigrwydd, rhyw, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, tarddiad cenedlaethol neu ddaearyddol, a chrefydd.
Y gwahaniaeth rhwng Digwyddiad Casineb a Throsedd Casineb:
Diffinnir Digwyddiad Casineb fel:
Unrhyw ddigwyddiad a allai, neu na allai, fod yn drosedd y mae'r dioddefwr neu unrhyw un arall yn ei ystyried yn ddigwyddiad wedi'i ysgogi gan ragfarn neu gasineb.
Diffinnir Trosedd Casineb fel:
Unrhyw ddigwyddiad casineb sy’n drosedd y mae’r dioddefwr neu unrhyw un arall yn ei ystyried yn drosedd wedi'i ysgogi gan ragfarn neu gasineb.
Mae’n bwysig nodi bod pob trosedd casineb yn ddigwyddiad casineb, ond, efallai na ellir ystyried rhai digwyddiadau casineb yn droseddau ac felly, ni fyddant yn cael eu cofnodi fel trosedd casineb.
Rydym yn ymchwilio i bob Trosedd Casineb sy'n cael ei riportio er mwyn lleddfu’r perygl o fwy o ddigwyddiadau, canfod troseddau a dod â throseddwyr o flaen eu gwell.
Barn y dioddefwr neu unrhyw un arall yw’r ffactor sy’n pennu beth sy'n cael ei ystyried yn ddigwyddiad casineb a beth sydd ddim - os bydd rhywun yn meddwl bod digwyddiad wedi cael ei ysgogi gan ragfarn, yna bydd yn cael ei ddosbarthu fel digwyddiad casineb. Nid oes raid i rywun sy’n dioddef trosedd casineb fod yn aelod o grŵp lleiafrifol neu yn rhywun sy'n cael ei ystyried yn gyffredinol fel rhywun sy'n ddiamddiffyn.