
Rhoddwyd cyfle i rai o bobl ifanc Sir Ddinbych wella eu sgiliau pêl-droed yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam fel gwobr am eu hymddygiad da yn ddiweddar.
Drwy gydol gwyliau'r haf, yn ogystal â chyfnod y Pasg a hanner tymor, mae disgyblion o wahanol ardaloedd wedi elwa o'r sesiynau hyfforddiant hyn fel gwobr am eu hymddygiad da yn eu cymunedau ledled Sir Ddinbych.