Mae’r tudalennau hyn yn rhoi gwybodaeth am gyfleoedd gyda Heddlu Gogledd Cymru i swyddogion yr heddlu a staff yr heddlu, gan gynnwys Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu, Swyddogion Gwirfoddol, Swyddogion Trosglwyddedig, Cadetiaid Gwirfoddol a Gwirfoddolwyr Cymunedol. Gallwch weld manylion am swyddi gwag, prosesau ymgeisio ac awgrymiadau ar sut i baratoi ar gyfer gwneud cais.
![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | |
![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() |
Mae Swyddogion yr Heddlu yn gwarchod y cyhoedd ac yn ymdrechu i wella bywydau pobl Gogledd Cymru.
Mae sialensiau yn codi’n ddyddiol ac fel swyddog bydd angen i chi weithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun a defnyddio eich gwybodaeth a’ch profiad ym mhob sefyllfa. Mae’r manteision yn fawr, ond y boddhad mwyaf yw gwybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned.
I gael mwy o wybodaeth ynghylch ymuno â ni fel swyddog heddlu dilynwch y link ddolen hon >>
Mae Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu yn gweithio ochr yn ochr â Swyddogion yr Heddlu, ac yn bresenoldeb gweladwy yn y gymuned.
Mae Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu'n ategu ac yn cefnogi swyddogion heddlu rheolaidd gyda’r gwaith y maent yn ei gyflawni ac yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o fynd i’r afael ag anghenion a phryderon y gymuned leol.
I gael mwy o wybodaeth ynghylch ymuno â ni fel SCCH dilynwch y ddolen hon. >>
Mae’r Heddlu Gwirfoddol yn cynnwys swyddogion gwirfoddol sy’n rhoi o’u hamser i helpu gyda’r gwaith o blismona Heddlu Gogledd Cymru.
Fel Swyddog Gwirfoddol byddwch yn gweithio ochr wrth ochr â swyddogion rheolaidd, a bydd disgwyl i chi gyflawni 4 awr o wasanaeth yr wythnos. Mae bod yn Swyddog Gwirfoddol yn ffordd wych o roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned ac i ddatblygu sgiliau newydd neu ddysgu am waith go iawn swyddog heddlu. Fel Swyddog Gwirfoddol byddwch yn derbyn hyfforddiant a lifrau, ac yn cael yr un pwerau ac awdurdod a swyddogion rheolaidd.
I gael mwy o wybodaeth ynghylch ymuno â ni fel Swyddog Gwirfoddol dilynwch y ddolen hon. >>
Mae staff yr heddlu yn chwarae rôl bwysig iawn o fewn Heddlu Gogledd Cymru.
Mae’r rolau’n amrywio, o Swyddogion Adnoddau Dynol i Ymchwilwyr Lleoliadau Trosedd. Mae pob rôl yn helpu’r heddlu i gyflawni ei amcanion a sicrhau bod Gogledd Cymru'n lle diogel i fyw.
I weld manylion swyddi gwag ar gyfer Staff yr Heddlu dilynwch y ddolen hon >>
Mae ymuno fel Cadét Gwirfoddol yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau gwerthfawr, cyfarfod ffrindiau newydd a chael mewnwelediad i yrfa amrywiol a heriol gyda Heddlu Gogledd Cymru.
Gallwch ymuno â'r cynllun yn 16 oed a byddwch yn dilyn rhaglen wirfoddol fydd yn parhau am ddwy flynedd. Mae'r rhaglen yn cynnwys sesiynau hyfforddiant wythnosol yn yr orsaf heddlu leol, helpu'r Timau Plismona'r Gymdogaeth gyda digwyddiadau cymunedol yn ystod gwyliau ac ar benwythnosau, ynghyd â chymryd rhan yng nghynllun Gwobr Dug Caeredin
I gael mwy o wybodaeth ynghylch ymuno â ni fel Cadét Gwirfoddol dilynwch y ddolen hon >>
Aelodau'r gymuned yw Gwirfoddolwyr yr Heddlu ac maent yn rhoi o’u hamser i gyflawni dyletswyddau a gweithgareddau ychwanegol at y rhai sy’n cael eu cyflawni ar hyn o bryd gan deulu estynedig yr heddlu, gan ychwanegu gwerth mawr at y gwasanaeth sydd eisoes yn cael ei ddarparu.
Rydym yn edrych am bobl sy’n 16 neu hŷn sy'n dod o amrywiaeth o gefndiroedd a rhannau o’r gymuned.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni fel Gwirfoddolwr Cymunedol, e-bostiwch neu ffoniwch yr Adran Recriwtio ar 01492 804699.
Os ydych wedi cwblhau eich cyfnod prawf gyda’ch heddlu presennol yn llwyddiannus efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer trosglwyddo i Heddlu Gogledd Cymru. Ynghyd â’r ffaith y byddwch yn ymuno â sefydliad dynamig a blaengar o ran meddylfryd byddwch yn cael y cyfle i weithio mewn ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol.
Gyda chymysgfa o gymunedau gwledig a threfol byddwch yn profi amrywiaeth eang o heriau yn ddyddiol
Am fwy o wybodaeth ynghylch trosglwyddo i Heddlu Gogledd Cymru dilynwch y ddolen hon >>
CYSYLLTWCH A NI:
Llinell Gymorth Recriwtio: 01492 804699
Ebost Recriwtio: mailto:recruitment@north-wales.police.uk
Ymholiadau Staff yr Heddlu: psghrhelpdesk@nthwales.pnn.police.uk

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal ac wedi ymrwymo'n llwyr i egwyddorion cyfleoedd cyfartal ac amrywiaeth, ac mae'n croesawu ceisiadau gan unigolion o bob carfan o'r gymdeithas. Rydym yn plismona ardal sy'n amrywiol iawn o safbwynt diwylliant ac er mwyn sicrhau bod ein gwasanaeth yn cynrychioli'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu'n llawn, rydym yn croesawu ceisiadau gan grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli – a gan siaradwyr Cymraeg yn arbennig.
Polisi Penodiadau, Secondiadau a Throsglwyddiadau