
PC’s raise money for charity
08/09/2010 09:37:00
Police campaigns in Colwyn Bay
08/09/2010 09:31:00
Staff tackle Tour de France climbs for Ty Gobaith
07/09/2010 16:04:00
Tynnu sylw at ddiogelwch plant mewn ceir
07/09/2010 11:50:00
Diwrnod Diogelwch i Deuluoedd
07/09/2010 11:06:00
Mae’r heddlu’n apelio am dystion a gwybodaeth ar ôl lladrad mewn maes parcio tŷ bwyta yn Rhuthun nos Wener.
Am oddeutu 5 o’r gloch ar ddydd Gwener, yr Ail o Ionawr, roedd dyn yn dadlwytho eitemau o’i gar a oedd wedi parcio ym maes parcio cefn tŷ bwyta Tseiniaidd Panda Garden ar Stryd Record.
Fe sylwodd ar dri dyn yn dod allan o’u car tywyll a oedd hefyd wedi ei barcio yn y maes parcio.
Aeth un o’r dynion tuag ato a gafael ynddo o’r tu ôl. Cafodd ei wthio i mewn i set gefn y car lle deimlodd rhywbeth miniog yn pwyso yn erbyn ei gefn.
Dyma’r troseddwr yn dechrau edrych drwy fagiau a oedd ar y set gefn ac fe geisiodd ddwyn bag. Ni adawodd y dioddefwr i’r bag fynd gan ei fod yn cynnwys eitemau personol. Fe afaelodd y troseddwr mewn bag arall a oedd yn cynnwys sigarennau a bisgedi.
Gadawodd y tri dyn yn y car gyda’r olwynion yn troi’n uchel. Fe welwyd y car yn troi i’r dde ar Stryd Record.
Ni anafwyd y dyn 49-oed yn ystod y digwyddiad.
Mae ymholiadau’n parhau ac mae’r heddlu’n awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn yr ardal – yn enwedig dwy ddynes a oedd yn cerdded ar hyd Stryd Record ar y pryd - i gysylltu â swyddogion.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â PC 1417 Michael Butlin yng Ngorsaf Heddlu Rhuthun ar 0845 607 1001 (llinell Gymraeg) 0845 607 1002 (llinell Saesneg) neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.