
Staff tackle Tour de France climbs for Ty Gobaith
07/09/2010 16:04:00
Tynnu sylw at ddiogelwch plant mewn ceir
07/09/2010 11:50:00
Diwrnod Diogelwch i Deuluoedd
07/09/2010 11:06:00
Apêl yn dilyn saethu cath gyda gwn awyr
06/09/2010 10:40:00
Gwrthdrawiad Traffig y Ffyrdd Difrifol ym Moduan, Pwllheli
05/09/2010 11:29:00
Mae Mam wedi addunedu i geisio newid y ffordd y mae plant a phobl ifanc yn meddwl am geir a pheryglon goryrru yn dilyn marwolaeth drasig ei mab David ar Awst y 26ain.
Meddai Edwina Wares o Brestatyn: “Mae’n rhy hwyr i David a’r bobl ifanc oedd yn ei adnabod, ond mae’n rhaid sicrhau bod y rhai hynny sydd ddim yn gallu dreifio eto yn ymwybodol o’r peryglon.
“Os fedrai atal un teulu rhag colli plentyn, ac os allai fod o unrhyw gymorth i unrhyw un arall, fe wnâi popeth yn fy ngallu er mwyn codi ymwybyddiaeth am beryglon goryrru.”
Roedd David, a oedd ar ei ffordd adref o’i waith yng Ngwesty’r Graig Park, ar fin troi mewn i Rodfa Melyd lle'r oedd yn byw gyda’i fam, ei chwaer hŷn Jenny a’i frawd ieuengaf, Cameron, pan fu yn y gwrthdrawiad. “Dyna sy’n gwneud y ddamwain hyd yn oed yn anoddach i’w deall,” meddai Edwina.
“Roedd yn fachgen bendigedig a oedd yn gwneud y gorau o’i fywyd - roedd â diddordeb mawr mewn ymarfer corff a cheir, ac roedd yn byddaru ei deulu a’i ffrindiau gyda’i gynlluniau diddiwedd am brosiect car newydd neu am gar arall i’w brynu.”
Roedd David, a oedd yn 22-oed, ar fin dechrau ei flwyddyn olaf ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl lle'r oedd yn astudio rheolaeth eiddo.
Roedd David, cyn-ddisgybl yn Fairholme yn Llanelwy, Kings School yng Nghaer ac Ysgol Uwchradd Prestatyn, yn boblogaidd yn yr ardal. Fe’i disgrifir fel plentyn hapus, cymdeithasol a oedd yn cael ei gofio’n annwyl gan ei athrawon fel disgybl a oedd yn denu pawb gyda’i wên.
Hoffai mam David ddiolch i’r holl aelodau o’i theulu a ffrindiau sydd wedi anfon cardiau a blodau, ac sydd wedi ymweld â’i chartref. “Maent wedi bod yn gefnogaeth gadarn dros yr wythnosau anodd diwethaf,” meddai.
Bydd dathliad o fywyd David yn cael ei gynnal yn Eglwys Calfaria (Calvary) ar Ffordd Fictoria, Prestatyn am 1 o’r gloch y prynhawn, dydd Gwener, y 3ydd o Hydref ac i ddilyn yng Ngwesty’r Graig Park. Mae cais wedi cael ei wneud i’r rhai sy’n bwriadu bod yn bresennol beidio â rhoi blodau, ond gwerthfawrogir unrhyw gyfraniad tuag at Uned Gofal Dwys Babanod Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.