Recriwtio

  llun o swyddog heddlu llun o SCCH llun o swyddog gwirfoddol llun o staff yr heddlu llun o gadet gwirfoddol llun o wirfoddolwr cymunedol llun o swyddog sydd am drosglwyddo  
Ddim yn recriwtio rwan Ddim yn recriwtio rwan recriwtio rwan Ddim yn recriwtio ddim yn recriwtio rwan reriwtio rwan recriwtio rwan

 

Nid ydym yn derbyn ceisiadau am rolau Swyddog Heddlu,Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu, Staff yr Heddlu, Profiad Gwaith na Cadetiaid Gwirfoddol ar hyn o bryd - parhewch i edrych ar y wefan hon i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

 

Heddlu Gwirfoddol

 

Rydym yn recriwtio Swyddogion Gwirfoddol rŵan. Mwy o wybodaeth ar gael yma.

 


 

 

Swyddog sydd am drosglwyddo

 

DITECTIF GWNSTABLIAID

 

Oes gennych chi’r sgiliau ymchwilio, y brwdfrydedd a’r ymrwymiad angenrheidiol i sicrhau Gogledd Cymru diogelach?

 

Rydym yn edrych i recriwtio Ditectif Gwnstabliaid cymwys, medrus a phrofiadol o Heddluoedd Swyddfa Gartref eraill i gefnogi darpariaeth y Gwasanaeth Plismona Lleol ledled ardal yr Heddlu yn ogystal ag o fewn ein rolau ditectif arbenigol.

 

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi cwblhau’r Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr Trosedd Cychwynnol (ICIDP) yn llwyddiannus neu gwrs CID sylfaen cyfwerth.

 

Lawrlwythwch y ffurflen gais yma.

 

 


 

  • Gwirfoddolwr Cefnogi'r Heddlu


    Aelodau'r gymuned yw Gwirfoddolwyr Cefnogi'r Heddlu ac maent yn rhoi o’u hamser i gyflawni dyletswyddau a gweithgareddau ychwanegol at y rhai sy’n cael eu cyflawni ar hyn o bryd gan deulu estynedig yr heddlu, gan ychwanegu gwerth mawr at y gwasanaeth sydd eisoes yn cael ei ddarparu. Rydym yn edrych am bobl sy’n 16 neu hŷn sy'n dod o amrywiaeth o gefndiroedd a rhannau o’r gymuned.

 


 

  • Mentoriaid Iaith Gymraeg


    Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i wella ac ychwanegu at ei allu i ddarparu plismona sy’n canolbwyntio ar y dinesydd.  Mae’n ofynnol hefyd i’r Heddlu gydymffurfio â'i ddyletswyddau dan ddeddfwriaeth yr iaith Gymraeg. I’r perwyl hwnnw mae’r Heddlu wedi cyflwyno rhaglen helaeth o ddatblygiad a hyfforddiant ar gyfer pob aelod o staff i’w galluogi nhw i ennill sgiliau yn y Gymraeg,  gwella eu sgiliau neu feithrin digon o hyder i ddefnyddio'r iaith wrth roi gwasanaeth i’r cyhoedd  neu wrth gynnal busnes mewnol.  I gynorthwyo â’r rhaglen hon, byddai Heddlu Gogledd Cymru yn falch o gael cymorth gwirfoddolwyr o’r gymuned sy’n siarad Cymraeg ac a  fyddai’n hoffi ein helpu ni i feithrin hyder ein staff i ddefnyddio’r iaith.  Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i gyflwyno syniadau er mwyn dangos ym mha ffordd y gallent  fod o gymorth e.e. mentora 'un i un', cynnal gweithdai a chefnogi'r defnydd o Gymraeg ysgrifenedig ayyb.

    Os hoffech gael sgwrs am y cyfle hwn, byddai  Meic Raymant, Pennaeth Adran Gwasanaethau Iaith Gymraeg yn barod iawn i drafod eich syniadau gyda chi ar 01286 670810.

 

 


stonewall and two ticks logosMae Heddlu Gogledd Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal ac wedi ymrwymo'n llwyr i egwyddorion cyfleoedd cyfartal ac amrywiaeth, ac mae'n croesawu ceisiadau gan unigolion o bob carfan o'r gymdeithas. Rydym yn plismona ardal sy'n amrywiol iawn o safbwynt diwylliant ac er mwyn sicrhau bod ein gwasanaeth yn cynrychioli'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu'n llawn, rydym yn croesawu ceisiadau gan grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli – a gan siaradwyr Cymraeg yn arbennig.

.