Cwestiynau a Ofynnir Amlaf
All unrhyw un fod yn Swyddog Gwirfoddol?
Gall, fodd bynnag mae yna rai galwedigaethau lle na fyddwch yn
gymwys i gael eich penodi’n Swyddog Gwirfoddol. Mae’r rhai hynny
sydd wedi cael eu gwahardd yn cynnwys Wardeiniaid Traffig, Patrolau
Croesfan Ysgolion, unigolion sy’n gweithio i sefydliadau diogelwch
preifat a chyfreithwyr (cysylltwch â’r Uned Recriwtio am ragor o
wybodaeth.
Bydd ffurflenni cais yn cael ei hanfon ar gais a bydd Heddlu
Gogledd Cymru yn cynnal gwiriadau diogelwch llym er mwyn sicrhau
nad yw safle na rôl Swyddog Gwirfoddol o fewn yr heddlu byth wedi’i
chyfaddawdu.
Ydw i’n gymwys i ymgeisio?
Mae gofynion cymhwysedd y gwasanaeth heddlu yn eithaf manwl, ond
rydym wedi cynnwys crynodeb o rai o’r gofynion sylfaenol isod.
Cliciwch ar bob un o’r rhain i gael mwy o wybodaeth.
Mi hoffwn ymuno â Heddlu Gogledd Cymru ond nid wyf yn gallu
siarad Cymraeg. Ydy hyn yn broblem?
Yn unol â Pholisi Iaith Gymraeg yr Heddlu, bydd rhaid i bob
unigolyn sy'n ymuno â Heddlu Gogledd Cymru feddu ar sgiliau llafar
yn yr iaith Gymraeg. Ar gyfer rôl Swyddog Gwirfoddol, bydd rhaid i
chi feddu ar sgiliau llafar Cymraeg Lefel 2. I’ch cefnogi gyda hyn
mae’r Heddlu wedi llunio pecyn hunan ddysgu, sydd ar gael yn
Adran Iaith Gymraeg y wefan hon.
Ydw i angen unrhyw gymwysterau?
Nid oes unrhyw ofynion addysgol ffurfiol ar gyfer mynediad.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd fynychu, a llwyddo mewn canolfan asesu.
Mae safon dda o addysg yn fanteisiol gan y bydd hyn o gymorth i chi
ymdopi’n gystadleuol â’r broses ddethol, yr hyfforddiant a’r swydd
ei hun. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Y Broses
Ymgeisio.
A oes yna unrhyw gyfyngiadau taldra neu bwysau?
Nid oes unrhyw gyfyngiad o safbwynt taldra, ond mae gan y
Swyddfa Gartref ganllawiau ar daldra/pwysau y mae Heddlu Gogledd
Cymru yn eu dilyn.
A oes yna unrhyw gyflyrau meddygol a fyddai’n atal unrhyw un
rhag ymgeisio?
Gan fod rôl Swyddog Gwirfoddol yn heriol, mae'n ddyletswydd
arnom o safbwynt yr ymgeiswyr a'r cyhoedd i sicrhau bod recriwtiaid
yn cadw'n ffit ac yn iach trwy gydol eu cyfnod o wasanaeth. Os oes
gennych unrhyw bryderon ynghylch cyflyrau meddygol neu anghenion
golwg, cysylltwch â'r Adran Recriwtio neu anfonwch y manylion at
ein Huned Iechyd Galwedigaethol, Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru,
Glan y Don, Bae Colwyn, LL29 8AW.
Oes angen i mi hysbysu fy nghyflogwr?
Oes, fe gynghorir pob ymgeisydd i ddweud wrth eu cyflogwr am eu
cais er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Amser Gweithio 1998 (OS 1998
Rhif: 1833).
Faint o oriau sydd raid i Swyddogion Gwirfoddol weithio?
Rydym yn gofyn i chi ymrwymo i weithio o leiaf 4 awr yr wythnos
neu 16 awr y mis. Gofynnir i chi wneud hyn er mwyn sicrhau eich bod
yn cynnal eich sgiliau a’ch gwybodaeth. Mae oriau dyletswydd yn
hyblyg felly mae modd eu cyflawni fel sy'n gyfleus i chi o ran eich
trefniadau gwaith, teulu a chymdeithasol. Nid oes cyfyngiad o
safbwynt yr uchafswm o oriau y gallwch eu gweithio ond rydym yn
cydymffurfio â Rheoliadau Amser Gweithio (Rhif OS 1998: 1833). Ar
ôl cychwyn yn y swydd, disgwylir i chi fynychu sesiynau hyfforddi
yn ystod yr wythnos, ar benwythnosau a min nos.
Oes raid i Swyddogion Gwirfoddol fynychu’r llys?
Oes. Efallai bydd hyn yn ystod oriau gweithio arferol. Mae’r
mwyafrif o gyflogwyr yn hyblyg yn hyn o beth ac yn barod i ryddhau
eu gweithwyr pan fo angen. Bydd eich cyflogwr yn llenwi ffurflen
fydd yn cynnwys manylion eich coll enillion a bydd hyn yn sicrhau
bod Heddlu Gogledd Cymru yn talu am unrhyw amser y byddwch yn ei
dreulio yn y llys.
Ydy Swyddogion Gwirfoddol yn gallu dewis lle maent yn
gweithio?
Fe ystyrir lleoliad unigolion, ac mae’r mwyafrif o Swyddogion
Gwirfoddol yn dewis gweithio naill ai yn agos at eu man gwaith, o
fewn eu cymuned neu yn y dref/pentref nesaf.
Ydy Swyddogion Gwirfoddol yn cael lifrai am ddim?
Ydynt, byddwch yn cael lifrai llawn, yn union fel swyddog heddlu
arferol. Byddwch hefyd yn cael yr un offer amddiffynnol.
A oes gan Swyddogion Gwirfoddol hawl i hawlio costau
teithio?
Gellir ad-dalu costau teithio a threuliau ‘allan o boced’ eraill
a ddaw i’ch rhan yn ystod eich dyletswyddau fel Swyddog
Gwirfoddol.
A oes cefnogaeth i’w gael os bydd Swyddog Gwirfoddol yn cael ei
anafu tra ar ddyletswydd?
Os caiff swyddog gwirfoddol ei anafu wrth gyflawni ei
ddyletswyddau, mae gan y Gwasanaeth Plismona reoliadau cenedlaethol
mewn perthynas â choll enillion o gyflogaeth arferol.
Pa gefnogaeth cyfreithiol sydd ar gael?
Mae’r NPIA wedi trefnu yswiriant ar ran Swyddogion Gwirfoddol
yng Nghymru a Lloegr i’w gwarchod yn erbyn digwyddiadau tra ar
ddyletswydd. Gall y rhain gynnwys anaf personol ac anffafriaeth, a
gallant hefyd ddarparu cyfreithwyr ar gyfer amddiffyniad
cyfreithiol a gwrandawiadau camymddwyn. Cliciwch yma am fwy o
wybodaeth.
Pa hyfforddiant a roddir?
Mae yna raglen Hyfforddiant Cenedlaethol y mae’n rhaid ei dilyn
ac mae’n cynnwys sesiynau hyfforddi yn ystod y penwythnos a min
nos. Byddwn yn cynnwys hyfforddiant a goruchwyliaeth ‘wrth y
gwaith’ parhaus. Bydd pob unigolyn yn dilyn rhaglen hyfforddi
gynhwysol a byddant yn elwa o ddysgu a datblygu amrywiaeth eang o
sgiliau gan gynnwys proffesiynoliaeth, gwneud penderfyniadau,
gweithio ag eraill a darparu gwasanaeth. Bydd eich cyflogwr hefyd
yn elwa o’r hyfforddiant y byddwch yn ei gael.
Ydy bod yn Swyddog Gwirfoddol o gymorth i chi fod yn Swyddog
Heddlu arferol?
Bydd bod yn Swyddog Gwirfoddol yn galluogi’r unigolion hynny
sy’n ystyried ymuno â’r Heddlu arferol i gael goleuni pellach ar y
Gwasanaeth Heddlu yn ogystal â chael profiad gwerthfawr. Fodd
bynnag, nid yw hyn yn rhan o’r meini prawf dethol ac ni roddir
unrhyw ffafriaeth i geisiadau gan Swyddogion Gwirfoddol. Mae proses
ddethol swyddogion arferol yn fwy llym ac yn cynnwys meini prawf
asesu ychwanegol.
A oes yna brawf ffitrwydd fel rhan o’r broses ymgeisio?
Ar hyn o bryd nid oes rhaid i’r ymgeiswyr gwblhau prawf
ffitrwydd fel rhan o’r broses ymgeisio. Fodd bynnag, unwaith
byddant wedi cael eu penodi bydd rhaid iddynt basio’r prawf fel
rhan o’u hyfforddiant diogelwch personol. Cliciwch yma i gael gwybod mwy
am y prawf ffitrwydd.