Gwasanaeth Sgwrsio Dros y We

Rydym yn sylweddoli na fyddwch chi o hyd eisiau neu angen siarad a ni ar y ffôn. Felly rydym yn rhoi opsiynau gwahannol, yn cynnwys ebost, ffurflenni riportio ar-lein a sgwrs byw ar lein.

Gwasanaeth ar gyfer riportio materion di-frys yn unig yw hwn. Pan na fydd y gwasanaeth hwn ar gael, defnyddiwch ein ffurflenni riportio ar-lein neu ffoniwch 101.

Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob tro.

Telerau ac Amodau (Cliciwch am fwy o wybodaeth)

Ni allwn roi unrhyw ddiweddariadau ar ddigwyddiadau neu droseddau i chi drwy’r gwasanaeth hwn.

Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei weithredu gan Heddlu Gogledd Cymru a gallwch ei ddefnyddio ar gyfer ymholiadau sy’n ymwneud ag ardal yr Heddlu hwn yn unig. Ni fyddwn yn gallu eich cynorthwyo chi ag unrhyw beth y tu allan i’r ardal hon.

Ni fyddwn yn goddef negeseuon sarhaus a niwsans. Gofynnwn yn garedig i chi beidio â chamddefnyddio’r cyfleuster hwn. Os byddwch yn dewis anwybyddu’r neges hon yna efallai y byddwn yn penderfynu eich euogfarnu dan Ddeddf Gohebiaethau Maleisus 1998.

Mae hwn yn wasanaeth diogel, fodd bynnag os ydych yn rhywle cyhoeddus neu’n defnyddio cyfrifiadur sy’n cael ei rannu, byddwch yn wyliadwrus o eraill fyddai o bosib yn gallu gweld y cynnwys.

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhoi i ni drwy’r gwasanaeth hwn yn cael ei phrosesu yn unol â Deddf Gwarchod Data 1998. Gall Heddlu Gogledd Cymru gadw’r wybodaeth hon ar bapur neu’n electronig. Bydd yn cael ei phrosesu yn unol â’ch ymholiad a nod cyffredinol Heddlu Gogledd Cymru o atal a datrys trosedd, amddiffyn bywyd ac eiddo, cadw trefn, cynnal cyfraith a threfn a chynorthwyo’r cyhoedd.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn defnyddio meddalwedd IM Supporting. Am fwy o wybodaeth ewch i’w gwefan.

Cwestiwn?
Sgwrsio ar-lein. Ddim yn addas mewn achosion brys.