Apêl am dystion yn dilyn damwain ffordd ger Treuddyn

Mae'r heddlu'n apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd ar yr A5104 ger Treuddyn, a arweiniodd at saith o bobl yn cael eu hanafu'n ddifrifol. 

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng fan Ford wen a Volvo du tua 5.40pm heno (Dydd Llun 10 Mehefin).

Dywedodd y Rhingyll Jason Diamond: "Arweiniodd y gwrthdrawiad at saith o bobl yn cael eu cludo i Maelor Wrecsam ac Ysbyty Prifysgol Stoke heno gydag anafiadau a ddisgrifir fel rhai difrifol.

“Apeliwn ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a all fod â ffilm camera cerbyd o'r cerbydau i ddod ymlaen."

Cysylltwch ag 101 gan ddyfynnu cyfeirnod X060539. Fel arall defnyddiwch y sgwrs we fyw https://www.north-wales.police.uk/contact/live-chat-support.