Pennaeth cynllun arloesol yn gwybod sut beth yw cael aelod o’r teulu yn ddibynnol ar gyffuriau

Mae’r wraig sy’n gyfrifol am redeg cynllun arloesol i helpu pobl agored i niwed i dorri i ffwrdd o fywyd o droseddu yn gwybod sut beth yw byw dan gysgod dibyniaeth.

Anna Baker yw rheolwr rhaglen Checkpoint Cymru, menter newydd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, sydd â’r nod o geisio helpu i gadw mân droseddwyr allan o drafferth ac allan o’r llysoedd.

Cafodd y ddynes 44 oed ei magu gan nain a oedd yn gaeth i gyffuriau presgripsiwn tra bod ei chwaer, hen fodryb Anna, a oedd yn ddibynnol ar alcohol, yn rhedeg tafarn yn Hampshire.

Bydd Anna, sydd wedi gweithio fel rheolwr ardal i elusen sy’n rhedeg rhaglenni ymyrraeth cyffuriau yng ngogledd Cymru, yn arwain tîm o naw ‘llywiwr’ wedi’u lleoli ar draws tair adran ranbarthol Heddlu’r Gogledd, sef y Dwyrain, y Canolbarth a’r Gorllewin.

Eu gwaith yw goruchwylio a chynnig arweiniad i fân droseddwyr gan roi cyfle iddynt osgoi gael eu herlyn a chael record droseddol trwy geisio cyrsiau o gymorth a chefnogaeth gan wasanaethau adsefydlu yn y gymuned ar ôl llofnodi contract i ddweud y byddant yn cydymffurfio ac yn peidio aildroseddu yn ystod y cyfnod hynny. Rhaid i’r troseddwyr gwblhau’r contract adsefydlu y cytunwyd arno yn llwyddiannus hyd at uchafswm o bedwar mis neu byddant yn wynebu cael eu herlyn a chael record droseddol os ydynt yn methu â gwneud hynny.

Byddant yn cael eu goruchwylio gan “lywiwr” medrus - a all gynnwys pobl sydd wedi goresgyn dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol - a byddant yn cael eu cyhuddo o’r drosedd wreiddiol os byddant yn torri’r contract ar unrhyw adeg.

Nid yw troseddau difrifol fel treisio, lladrad neu lofruddiaeth yn gymwys ar gyfer Checkpoint ac nid yw troseddau gyrru, achosion o gam-drin domestig difrifol neu droseddau casineb difrifol nac ymosodiadau yn erbyn y gwasanaethau brys yn gymwys i’r cynllun ychwaith.

Ar yr un pryd, mae menter arall sy’n seiliedig ar brosiect peilot gwahanol, Rhaglen Cyffuriau Bryste, sydd wedi bod yr un mor llwyddiannus hefyd yn cael ei chyflwyno.

Bydd pobl sy’n cael eu dal â symiau bach o gyffuriau yn eu meddiant yn cael eu tywys tuag at gyrsiau ymwybyddiaeth addysgol sy’n debyg mewn egwyddor i’r rhai ar gyfer gyrwyr sy’n cael eu dal yn goryrru a gall y rhai sy’n cymryd rhan osgoi euogfarn droseddol.

Arferai Anna, sy’n siarad Cymraeg ac sy’n hanu’n wreiddiol o Lanfairpwll ar Ynys Môn, fod yn gyfrifol am gyfryngau digidol a phresenoldeb ar-lein y Comisiynydd, ac meddai: “Yn aml iawn mae’r bobl rydyn ni’n delio efo nhw wedi dioddef troseddu yn eu herbyn yn ogystal â bod yn rhai sy’n cyflawni troseddau.

“Datblygwyd rhaglen Checkpoint gan Brifysgol Caergrawnt ac fe’i harloeswyd  yn Durham, a Gogledd Cymru oedd yr ardal heddlu gyntaf yng Nghymru i’w mabwysiadu ac rydym yn ei wneud yn ein ffordd bwrpasol ein hunain.

“Yn hytrach na’r drefn draddodiadol o ddal a dedfrydu mae’n ymwneud â mynd i’r afael â throseddu lefel isel ac atal y rhai sy’n gyfrifol rhag cael eu dal yn y system cyfiawnder troseddol, gan dorri neu atal y cylch o droseddu.

“Y peth cyntaf yw darganfod beth wnaeth eu harwain nhw i droseddu a gallai hynny fod yn gyffuriau neu’n alcohol, colli swyddi neu digartrefedd.

“Rydym yn gweithio’n agos mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru sy’n cyflogi’r llywwyr ac rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu cefnogaeth.”

“Rwy’n gwybod sut beth yw cael aelod o’r teulu â phroblem dibyniaeth oherwydd roedd fy nain yn gaeth i bensodiasepinau a roddwyd iddi ar bresgripsiwn ar gyfer gorbryder ac iselder ar ôl iddi gael sawl pwl o ganser a phrofedigaeth yn y dyddiau pan oedd meddygon teulu yn eu dosbarthu fel melysion.

“Arferai fy nain ofalu amdanaf pan fyddai fy rhieni yn y gwaith ac yn aml yn ystod gwyliau’r haf byddwn yn mynd efo hi lawr i Hampshire i aros gyda fy hen fodryb.

“Roedd yn gwneud pethau’n arbennig o anodd i fy rhieni oherwydd nad oedd pobl yn gwybod sut i ddelio efo hyn yn y dyddiau hynny ac roedd yn golygu fy mod i wedi gweld pethau fel plentyn na ddylech fyth orfod eu gweld. Gwnaeth fy rhieni bopeth o fewn eu gallu i’w helpu, roedd yn dorcalonnus.

“Ar yr un pryd ni fyddai unrhyw un a fyddai’n ein gweld fel teulu wedi bod dim callach ond dyna beth oedd yn digwydd rhwng y pedair wal hynny.

“Rhoddodd y Valium yr oedd fy nain yn ei gymryd ymdeimlad iddi o ddianc o’i phryderon a’i hofnau ond wna i fyth anghofio dod o hyd iddi pan oedd wedi gorddosio.

“Ar y pryd roedd golygfa wedi bod yn EastEnders ar y BBC lle’r oedd Angie Watts wedi gorddosio a’i gŵr, Den Watts, yn ceisio ei cherdded o amgylch yr ystafell a thaflu dŵr yn ei hwyneb.

“Roeddwn i’n ceisio llusgo fy nain allan o’r gwely a thasgu dŵr ar ei hwyneb i’w deffro. Roedd hi’n ddynes mor falch ac mor uchel ei pharch ond nid oedd gan bobl ddim syniad am yr ochr hon iddi. Fe’i cuddiodd yn eithriadol o dda. Roedd hi’n ddynes garedig a wnaeth lawer o waith gwirfoddol yn lleol ond nid oedd unrhyw un yn gwybod am ei dioddefaint tawel. Roeddem yn agos iawn ac roeddwn bob amser yn meddwl yn uchel iawn amdani.

“Mae’n dangos y gall y math yma o beth ddigwydd i unrhyw un ohonom ar unrhyw adeg a’n tipio dros y dibyn a nod y prosiect hwn yw cynnig help i bobl a allai fel arall gael eu dal i fyny mewn troseddu. Ychydig o help a gafwyd yn y dyddiau hynny ar gyfer materion fel y rhai a wynebodd fy nheulu, ond dydw i ddim yn meddwl ein bod yn y lleiafrif. Mae’n llawer llai o bwnc tabŵ bellach ac mae llawer mwy o gefnogaeth ar gael i bobl.

“Beth bynnag oedd yr holl heriau a wynebwyd gennym fel teulu bach am nifer o flynyddoedd, cefais fy magu mewn cartref cariadus a chefnogol ac mae fy nghefndir wedi fy ngwneud i y person ydw i heddiw. Rwyf ond yn dymuno y gallwn fod wedi helpu fy nain yn y ffordd y gallwn ni helpu pobl heddiw.”

Mae heddluoedd eraill yn dilyn ac mae’r rhaglen bellach yn cael ei chyflwyno gan Heddlu Dyfed-Powys ac wedi cael ei mabwysiadu hefyd gan heddluoedd Gorllewin Canolbarth Lloegr, Cleveland ac Avon a Gwlad yr Haf.

Mae’r arwyddion cynnar yn dangos ei bod yn cael effaith ddramatig ar aildroseddu - yn Durham dim ond pedwar y cant o’r rhai sydd wedi bod ar y rhaglen sy’n aildroseddu o’i gymharu â 19 y cant y mae’r llysoedd yn delio â hwynt.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Arfon Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu ei hun: “Mae Checkpoint yn gwella cyfleoedd bywyd oherwydd bod pobl yn osgoi cael record droseddol, a all effeithio ar eu cyfleoedd cyflogaeth ac addysg yn y dyfodol.

“Efallai y bydd hyd yn oed yn achub bywydau trwy gyfeirio pobl i ffwrdd o droseddu a cham-drin sylweddau a gallai hefyd arbed llawer o arian i’r pwrs cyhoeddus oherwydd bod cost carcharu rhywun bellach yn £65,000 a £40,000 am bob blwyddyn ar ôl hynny.

“Mae Checkpoint wedi’i anelu at bobl sydd wedi cyflawni lefel is o droseddau ac yn hytrach na mynd â nhw i’r llys gallwn ymyrryd a defnyddio llywwyr medrus i’w cyfeirio at y gwasanaethau priodol er mwyn mynd i’r afael ag achosion gwaelodol eu troseddu.

“Byddwn yn pwysleisio nad yw’n opsiwn meddal - bydd yn anodd ei gwblhau ond os bydd yr unigolyn yn cwblhau’r contract yn llwyddiannus ac yn peidio ag aildroseddu, ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd yn eu herbyn.

“Os ydyn nhw’n aildroseddu neu’n methu â chwblhau’r contract, byddan nhw’n cael eu herlyn a byddwn yn hysbysu’r llysoedd o’r amgylchiadau am eu methiant i gyflawni’r contract.”