Mon-SAR yn derbyn grant gan PACT
Dydd Mawrth 13 Awst 2019
Mae Mon-SAR, y sefydliad Chwilio ac Achub sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr ar Ynys Môn yn fwy tebygol o gael offer arbennig i chwilio yn y nos diolch i grant oddi wrth PACT.
Cafodd Mon-SAR siec o £250 o gronfa PACT i brynu camera FLIR.
Meddai llefarydd ar gyfer Mon-SAR: "Mae camera Flir yn ddarn hanfodol o offer sydd angen arnom ni i chwilio yn y tywyllwch yn enwedig mewn coedwigoedd a mynyddoedd gan ei fod yn defnyddio technoleg sy'n canfod gwres sy'n debyg i'r rhai a ddefnyddir gan hofrenyddion yr heddlu."
Ychwanegodd PC Tracey Hughes: “Fel aelod o dîm Swyddogion Chwilio'r Heddlu rydym yn gweithio'n agos gyda grwpiau chwilio ac achub gwirfoddol sy'n adnodd gwerthfawr. Bydd y rhodd hwn yn cynorthwyo'r tîm i brynu'r darn hanfodol hwn o offer."
Sefydliad chwilio ac achub gwirfoddol yw Mon-SAR sy'n chwilio ac achub ar ran Heddlu Gogledd Cymru pan fydd pobl ar goll ac o bosib mewn perygl.
Ffurfiwyd y grŵp ychydig dros 3 blynedd yn ôl ac mae'r niferoedd yn tyfu oherwydd ymroddiad y gwirfoddolwyr sy'n rhoi o'i hamser nid yn unig wrth chwilio ond hefyd wrth fynychu hyfforddiant er mwyn bod yn barod i gael eu galw bob awr o'r dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae angen mwy o arian i alluogi'r tîm i brynu'r camera sy'n costio oddeutu £1600-£2000. Gall unrhyw berson neu fusnes sydd am helpu gysylltu â Mon-SAR drwy eu gwefan neu ar dudalen Facebook.