Cyfraith newydd i ddiogelu gweithwyr y Gwasanaethau Brys

Bydd y rhai sy’n ymosod ar swyddogion yr heddlu, parafeddygon, ymladdwyr tân, nyrsys a gweithwyr eraill o’r gwasanaethau brys yn wynebu dedfryd fwy llym diolch i gyfraith newydd sy’n cychwyn heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 13).

Logo Gwarchod y Gwarchodwyr

Mae’r Assaults on Emergency Workers (Offences) Act nawr yn gyfreithiol ar ôl iddo dderbyn Cydsyniad Brenhinol ym mis Medi 2018. Mae’n creu trosedd newydd o ymosodiad yn erbyn aelod o staff o’r gwasanaethau brys ac yn dyblu’r ddedfryd posib o 6 mis hyd at flwyddyn.

Fe lansiwyd ymgyrch Gwarchod y Gwarchodwyr Ffederasiwn yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr yn y senedd ym mis Chwefror 2017 yn gysylltiedig â Mesur Rheol-Deg-Munud a gyflwynwyd gan yr AS Holly Lynch o ardal Halifax. Roedd hi wedi ymuno â PC Craig Gallant ar batrôl yng Ngorllewin Yorkshire yn haf 2016 pan fu raid iddi ffonio 999 wrth weld swyddog a oedd ar ben ei hun yn cael ei gylchu gan dorf elyniaethus. Cafodd y mesur gefnogaeth gan yr AS Chris Bryant ac fe dderbyniodd gefnogaeth cyn ei throi’n gyfraith.

Meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro, Neill Anderson: “Pob diwrnod mae ein swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yn aml yn delio â sefyllfaoedd anodd a heriol ac yn rhoi ei hunain yng nghanol perygl er mwyn cynnal y gyfraith ac mae angen iddynt allu gwneud eu dyletswyddau mor ddiogel ag sy’n bosib. Tydi ymosodiad ddim yn, na ddylai fyth fod ‘yn rhan o’r swydd.’

“Mae’n gwbl annerbyniol iddynt gael eu bygwth, i bobl ymosod arnynt, i bobl ymosod arnynt ar lafar neu fod rhywun yn poeri arnynt - a dylai’r rhai sy’n gyfrifol wynebu’r goblygiadau cyfreithiol.

“Ers mis Ebrill eleni rydym wedi nodi 200 o ymosodiadau ar ein swyddogion a staff - o boeri hyd at dorri gên. Mae’n bwysig ein bod yn cofio - tu ôl i bob bathodyn mae swyddogion yr heddlu a gweithwyr y gwasanaethau brys eraill yn bobl gyffredin yn gwneud swyddi anghyffredin.

“Rydym yn croesawu’r ddeddf newydd yma a fydd yn gweld dedfrydau mwy llym yn cael eu rhoi ar rai sy’n ymosod ar swyddogion yr heddlu a chydweithwyr o’r gwasanaethau brys eraill. Rydym yn gobeithio y bydd yn atal ac yn darparu cyfiawnder i swyddogion yr heddlu, parafeddygon, ymladdwyr tân, swyddogion carchar a chydweithwyr eraill. Mae’n rhoi neges glir bod ymosodiadau yn annerbyniol a'i fod yn ymosodiad ar gymdeithas.”

Mae’r gyfraith, sy’n ymestyn o’r drosedd o ymosod ar swyddog yr heddlu, hefyd yn darparu cefnogaeth ychwanegol i wirfoddolwyr sy’n cefnogi’r gwasanaethau brys – megis Timau Achub Mynydd a’r RNLI.

Meddai Mark Jones, Ysgrifennydd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru: “Mae Ffederasiwn yr Heddlu wedi ymgyrchu er mwyn sicrhau bod ein swyddogion, a chydweithwyr o’r gwasanaethau brys yn derbyn cefnogaeth well gan y gyfraith os oes rhywun neu rywrai yn ymosod arnynt wrth weithio.

“Mae’n warth cenedlaethol fod ymosodiadau ar y gwasanaethau brys yn cynyddu felly mae’n hanfodol bod dedfrydau cryf a llym yn cael eu pasio ar y rhai sy’n dreisgar tuag at y gwasanaethau brys.

“Ni ddylai unrhyw un fynd i’w gwaith a chael rhywun neu rywrai yn ymosod arnynt  a dylai ymosodiad ar aelod o’r gwasanaethau brys gael ei gweld fel ymosodiad ar gymdeithas.

“Byddwn nawr yn gwylio’r sefyllfa’n ofalus er mwyn sicrhau fod y ddeddf newydd yn cael ei weithredu ar bob cyfle a bod y rhai sy’n gyfrifol am ymosodiadau yn wynebu’r goblygiadau. Mae’n rhaid i’r system gyfiawnder weithredu er mwyn Gwarchod y Gwarchodwyr.”

Mae’r gyfraith newydd hefyd yn cael ei groesawu gan gydweithwyr o’r Gwasanaeth Tân ac Achub.

Meddai Stuart Millington, Uwch Rheolwr Gweithrediadau, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rydym yn ddiolchgar nad oes llawer o ddigwyddiadau o’r fath yma yng ngogledd Cymru wrth feddwl am faint o alwadau yr ydym yn ei dderbyn

“Fodd bynnag, ni wnawn oddef ymosodiadau corfforol nag ymosodiadau ar lafar ar ein staff.

“Maent yn darparu gwasanaeth argyfwng a chymunedol er mwyn ceisio gwella cymunedau ac ni ddylai nhw orfod ddioddef unrhyw fath o drosedd wrth wneud hynny.

“Mae gennym bolisïau a dulliau gweithredu er mwyn diogelu ein staff a drwy gydweithio’n agos â’r heddlu fe wnawn erlyn unrhyw un sy’n cam-drin ein staff yn y modd yma.”

Meddai Louise Platt, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae ein staff yn gwneud gwaith anodd, yn rhoi eu hunain ar y blaen bob diwrnod er mwyn helpu pobl gydag argyfyngau meddygol, ac yn aml, yn gweithio mewn amodau anodd ac emosiynol.

“Mae bod yn agored i ymosodiadau neu unrhyw ymddygiad anweddus, boed yn gorfforol neu ar lafar, wrth wneud eu dyletswyddau yn gwbl annerbyniol. Rydym yn croesawu’r ddeddf newydd hon sydd wedi’i hanelu at ddiogelu ein staff.

“Mae trais nid yn unig yn peryglu ein staff, ond mae hefyd yn eu hatal rhag gwneud eu gwaith i ofalu am bobl fregus. Fodd bynnag, rydym yn ddiolchgar fod digwyddiadau o’r fath yn brin. Ond, wedi dweud hynny, mae gan ein staff yr hawl i ofyn i’r cyhoedd am barch a diogelwch wrth eu gwaith.”

Meddai Gary Doherty, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae ein staff yn gweithio’n hynod o galed er mwyn gofalu bod pob claf sy’n dod drwy ein drysau yn ddiogel ac mae’n annerbyniol iddynt ddioddef ymddygiad treisgar.

“Rydym yn trin ymosodiadau ar staff fel peth difrifol ac rydym yn croesawu’r ddeddf newydd yma, a fydd yn gweld troseddwyr sy’n ymosod ar staff y Bwrdd Iechyd yn cael dedfrydau llawer fwy llym.”